Englyn unodl union
Yr englyn unodl union yw'r mesur mwyaf poblogaidd[1] o'r Pedwar mesur ar hugain traddodiadol, ac ynghyd â'r cywydd deuair hirion, ymysg y ddau fesur pwysicaf. Erbyn heddiw, ceir cynghanedd ymhob llinell.
Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Hanes
golyguYng Nghanu Llywarch Hen a Chanu Heledd, defnyddir englynion penfyr ac englynion milwr, ond ers cyfnod Beirdd yr Uchelwyr, yr englyn unodl union yw'r englyn mwyaf poblogaidd, a daeth englyn yn gyfystyr ag englyn unodl union ar lafar.
Dangosodd Alan Llwyd fod y rhan ganlynol o'r Gododdin, a briodolir i Aneirin, bron yn dilyn patrwm englyn unodl union digynghanedd:
Am drynni drylaw drylenn
Am lwys am difiwys dywarchen
Am gwydaw gwallt e ar benn
Y am wyr eryr gwydyen.
trwy ei ysgrifennu fel hyn:
Am drynni drylaw drylenn – am lwys
Am difiwys dywarchen
Am gwydaw gwallt e ar benn
Y am wyr eryr gwydyen.
Canodd Cynddelw Brydydd Mawr dri englyn unodl union mewn coffa i'w fab, Dygynnelw. Ceisiodd yr ysgolhaig John Rhŷs brofi mai o'r Lladin y daeth y mesur hwn yn wreiddiol.
Nodweddion
golyguMae'r englyn yn gyfuniad o ddau fesur, sef toddaid byr a'r cywydd deuair hirion. Gelwir y ddwy linell gyntaf, sef y toddaid byr, yn baladr yr englyn, a gelwir y ddwy linell olaf, sef y cywydd deuair hirion, yn esgyll yr englyn.
Rhennir deg sillaf y llinell gyntaf yn 7+3, 8+2 neu 9+1, ac yn dilyn y gwant, ceir y strac a'r gair cyrch. Os defnyddir y Gynghanedd draws neu'r Groes yn y rhwng y gair cyrch a'r ail linell, cynganeddir yr ail linell yn bengoll. Fe'i cynganeddir ar ei hyd os defnyddir y Gynghanedd Sain.
Dyma enghraifft gan Dewi Emrys:
Wele rith fel ymyl rhod – o'n cwmpas
Campwaith dewin hynod;
Hen linell bell nad yw'n bod,
Hen derfyn nad yw'n darfod.
Dyma englyn unodl union o waith Tudur Aled:
Mae'n wir y gwelir argoelyn – difai
Wrth dyfiad y brigyn:
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.
Gellir canu cadwyn, cyfres neu osteg o englynion, ond mae'n fesur sy'n medru sefyll ar ei draed ei hun a cheir miloedd o enghreifftiau o englynion unigol.
Oriel o englynion ar gerrig beddau
golygu-
Englyn gan Trebor Mai ar englyn ym mynwent Eglwys Sant Rhychwyn, Dyffryn Conwy
-
Rhybudd i ymwelwyr mynwent Penrhyndeudraeth:
Ti sathrwr, baeddwr, beddau, — ar esgyrn
O rho ysgafn gamrau;
Cofia di hyn briddyn brau, Daw dwthwn y sethrir dithau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Fersiwn Newydd), Cyhoeddiadau Barddas, 2007
Llyfryddiaeth
golygu- John Morris-Jones, Cerdd Dafod, Rhydychen, 1925
- Alan Llwyd, Anghenion y Gynghanedd (Fersiwn Newydd), Cyhoeddiadau Barddas, 2007
- Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd Englynion Newydd, Cyhoeddiadau Barddas, 2009