Dyneiddiaeth

(Ailgyfeiriad o Dyneiddiwr)

Mae Dyneiddiaeth (hefyd hiwmaniaeth[1]) yn ddull mewn astudiaeth, athroniaeth, neu ymarfer, sy'n canolbwyntio ar egwyddorion a phryderon dynol. Mewn athroniaeth a gwyddoniaeth gymdeithasol, dyneiddiaeth yw'r safbwynt sy'n cadarnhau bodolaeth rhywbeth a ellir ei alw yn natur ddynol, ac fe'i gyferbynnir â gwrth-ddyneiddiaeth. Mae dyneiddiaeth seciwlar yn ddyfaliad seciwlar sy'n hybu rhesymeg, moeseg, a chyfiawnder, ac yn gwrthod dogma a chredoau goruwchnaturiol a chrefyddol, fel sail moesoldeb a phenderfynu. Cyferbynnir dyneiddiaeth seciwlar â dyneiddiaeth grefyddol, sy'n integreiddio athroniaeth foesegol ddyneiddiol gyda defoddau a chredoau crefyddol sy'n canolbwyntio ar anghenion, diddordebau, a medrau dynion.[2]

Roedd Dyneiddiaeth y dadeni yn fudiad diwylliannol Eidalaidd a oedd yn seiliedig ar astudiaeth o weithiau clasurol.[3][4]

Dyneiddiaeth yn y gorffennol

golygu

Cyfeiriodd dyneiddiaeth, yn y fan gyntaf, at system o addysg wedi ei sylfaeni ar ddiwylliant clasurol Groeg a Rhufain. Wrth i'r canol oesoedd ddod i ben, ac i syniadau'r Dadeni ledaenu trwy Ewrop, collodd awdurdod yr Eglwys ei afael yn raddol, ac fe ddatblygodd parch cynyddol tuag at fedr dynol, yn ogystal ag ymdeimlad o ryddhad deallusol.

Dyneiddiaeth yn y presennol

golygu

Heddiw mae’r gair 'dyneiddiaeth' yn cyfeirio at y syniad bod dyn yn medru byw bywyd gonest ac ystyriol heb ddilyn unrhyw grefydd ffurfiol.

Dyneiddiaeth grefyddol

golygu

Er i ddyneiddwyr honni y gall dyn fyw bywyd moesol heb fod yn grefyddol, ni olyga hyn fod dyneiddiwr heb grefydd o angenrheidrwydd. Serch hynny, mae dyneiddwyr crefyddol yn pwysleisio bod moesoldeb gwir yn tarddu o natur ddynol, yn hytrach nag ofn digofaint Duw, neu ffynonellau tebyg.

Dyneiddiaeth seciwlar

golygu

Dydy dyneiddwyr anghrefyddol ddim yn credu mewn bodolaeth Duw na duwiau nag mewn unrhyw beth ysbrydol, goruwchnaturiol, neu ofergoelus. Mae'r rhan fwyaf o ddyneiddwyr anghrefyddol yn anffyddwyr ac mae cyfrannedd arwyddocaol yn agnostig. Er mwyn gwneud penderfyniadau moesol fe fydd dyneiddiwr yn defnyddio deall beirniadol yn hytrach na dilyn pendantrwydd awdurdodol crefyddol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Geiriadur Mawr, Gwasg Gomer, 2009
  2. (Saesneg) Genesis of a Humanist Manifesto.
  3. (2007) Compact Oxford English dictionary (yn en). Oxford University Press  “humanism n. 2 a Renaissance cultural movement that turned away from medieval scholasticism and revived interest in ancient Greek and Roman thought.”
  4. Nicholas Mann (1996). The Origins of Humanism. Cambridge University Press, tud. 1-2  “The term umanista was used, in fifteenth century Italian academic jargon to describe a teacher or student of classical literature and the arts associated with it, including that of rhetoric. The English equivalent 'humanist' makes its appearance in the late sixteenth century with a similar meaning. Only in the nineteenth century, however, and probably for the first time in Humanism in Germany in 1809, is the attribute transformed into a substantive: humanism, standing for devotion to the literature of ancient Greece and Rome, and the humane values that may be derived from them.”