Rhesymeg
Gallu dyn i feddwl mewn ffordd arbennig ydy rhesymeg; troi tybiaethau a damcaniaethau'n gasliad neu'n benderfyniad. Mewn geiriau eraill, dyma'r drefn mae pobl rhesymol yn cynnig rhesymau neu eglurhad dros "achos ac effaith".
Enghraifft o'r canlynol | class used in Universal Decimal Classification, gwyddoniaeth ffurfiol, un o ganghennau athroniaeth |
---|---|
Rhan o | mathemateg, athroniaeth |
Yn cynnwys | classical logic, fuzzy logic, quantum logic, Rhesymeg osodiadol, predicate logic, modal logic, inductive reasoning, deductive reasoning, achosiaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir y gair "rheswm" hefyd yn fwy llac, fel gair sy'n cyfiawnhau rhywbeth sydd wedi'i ddweud neu ei wneud, e.e. "Dyna'r rheswm pam nad af yno." [1]
Mae rhesymu'n unigryw i'r natur ddynol ac yn un o ddiffiniadau'r bod dynol. Bellach, cysylltir y gair gyda'r arferiad o ddod i'r penderfyniad cywir gan gyrff sydd mewn awdurdod a sefydliadau addysg. Oherwydd hyn, mae llawer o gyrff eraill yn ceisio hawlio eu defnydd o reswm er mwyn gwella eu delwedd neu fod yn rhan dderbyniol o gymdeithas e.e. cyrff sy'n ymwneud g emosiwn, Yr Ocwlt a ffydd. Gellir edrych ar y tair disgyblaeth hyn fel gwrthwyneb i reswm.
Yr hyn sy'n gwneud rhesymeg yn wahanol i weddill ffurfiau o ymwybyddiaeth yw'r dull gwyddonol bron o fedru cyfiawnhau'r modd mae person wedi dod i gasgliad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Merriam-Webster.com Merriam-Webster Dictionary definition of reason