Dynwarededd Batesaidd

Mae dynwarededd Batesaidd yn fath o ddynwarededd lle mae rhywogaeth ddiniwed wedi esblygu i efelychu signalau rhybuddio rhywogaeth niweidiol sydd wedi'i chyfeirio at ysglyfaethwr sy'n targedu'r ddwy. Mae wedi ei henwi ar ôl y naturiaethwr Seisnig Henry Walter Bates, ar ôl ei waith ar loÿnnod byw yng nghoedwigoedd glaw Brasil.[1] Roedd Bates yn ffrind i Alfred Russel Wallace.

Dynwarededd Batesaidd
Delwedd o Bates 1861, yn darlunio dynwarededd Batesaidd rhwng rhywogaethau Dismorphia (rhes uchaf a'r trydedd rhes) a nifer o Ithomiini (Nymphalidae) (ail res a rhes waelod). Rhywogaeth nad yw'n Batesaidd, Pseudopieris nehemia, sydd yn y canol.
Mathdynwarededd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dynwarededd Batesaidd yw'r ffenomen ddynwaredol mwyaf adnabyddus ac a astudiwyd fwyaf, fel bod y gair ‘dynwarededd’ (S. mimicry) yn aml yn cael ei drin yn gyfystyr â dynwarededd Batesaidd. Mae yna lawer o ffurfiau eraill fodd bynnag, rhai yn debyg iawn mewn egwyddor, eraill ymhell ar wahân. Mae'n cael ei gyferbynnu'n aml â dynwarededd Müelleraidd, math o gydgyfeirio rhwng dwy neu fwy o rywogaethau niweidiol sydd o fudd i'r ddwy ochr. Fodd bynnag, oherwydd y gall fod gan y dynwaredydd rhywfaint o amddiffyniad ei hun, nid yw'r gwahaniaeth yn absoliwt. Gellir ei gyferbynnu hefyd â mathau gwahanol o ddynwarediadau. Efallai mai’r gwrthgyferbyniad mwyaf amlwg yma yw dynwarededd ymosodol, lle mae ysglyfaethwr neu arfilyn yn dynwared rhywogaeth ddiniwed, gan osgoi ei ganfod a gwella ei lwyddiant wrth chwilota.[angen ffynhonnell]

Gelwir y rhywogaeth efelychiadol yn ddynwaredwr, tra bod y rhywogaeth a ddynwaredwyd (a warchodir gan ei wenwyndra, blas drwg neu amddiffynfeydd eraill) yn cael ei adnabod fel y model. Mae'r rhywogaethau ysglyfaethus sy'n cyfryngu rhyngweithiadau anuniongyrchol rhwng y dynwaredwr a'r model yn cael ei adnabod yn amrywiol fel y derbynnydd, diniweityn neu weithredwr. Trwy barasiteiddio signal rhybuddio gonest y model, mae dynwarededd Batesaidd yn ennill mantais, heb orfod mynd i'r gost o arfogi ei hun. Mae'r model, ar y llaw arall, dan anfantais, ynghyd â'r diniweityn. Os bydd niferoedd uchel o fewnfudwyr yn ymddangos, gall profiadau cadarnhaol gyda'r dynwaredwyr arwain at drin y model yn ddiniwed. Ar amlder uwch mae yna fantais ddethol gryfach hefyd i'r ysglyfaethwr wahaniaethu rhwng dynwaredwr a model. Am y rheswm hwn, mae dynwaredwyr fel arfer yn llai niferus na modelau, enghraifft o ddewis yn dibynnu ar amlder (petai nifer mwy o ddynwaredwyr nag o fodelau ni fyddai'r system dwyll yn gweithio). Mae rhai poblogaethau dynwaredol wedi datblygu ffurfiau lluosog (amryffurfedd), gan eu galluogi i ddynwared sawl model gwahanol a thrwy hynny gael mwy o amddiffyniad. Nid yw dynwarededd Batesaidd bob amser yn berffaith. Mae amrywiaeth o esboniadau wedi'u cynnig ar gyfer hyn, gan gynnwys cyfyngiadau ar wybyddiaeth ysglyfaethwyr.

Cyfeiriadau

golygu