Eanach Mór, Swydd Armagh

Mae Eanach Mór (Saesneg: Annaghmore) yn bentref a threfgordd fach o 786 erw ger Loughgall yn Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon . Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Loughgall a barwniaeth hanesyddol Gorllewin Oneilland . [1] Mae o fewn ardal Cyngor Dinas a Dosbarth Armagh . Roedd ganddo boblogaeth o 265 o bobl (93 o aelwydydd) yng Nghyfrifiad 2011. [2] (Cyfrifiad 2001: 255 o bobl).[3] Ystyr yr enw yw Y Gors Fawr

Eanach Mór, Swydd Armagh
Tŷ'r orsaf gynt
Mathpentref, trefgordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Iwerddon Edit this on Wikidata
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Cyfesurynnau54.45°N 6.6°W, 54.45°N 6.6°W Edit this on Wikidata
Map

Mannau o ddiddordeb golygu

Yn wreiddiol, roedd Ardress House, Eanach Mór, yn ffermdy bach a drawsnewidiwyd ym 1760 gan y pensaer o Ddulyn George Ensor. Mae'n cael ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae'n cynnwys enghreifftiau o ddodrefn o'r 18g ac arddangosfa o ddarluniau. Mae'n cynnwys gwaith plastr yn y parlwr a grëwyd gan Michael Stapleton ym 1780. Mae'r buarth a'r adeiladau allanol yn dangos agweddau ar hanes ffermio gydag arddangosfa o offer fferm. Mae yna ardd gydag enghreifftiau o fathau cynnar o rosynnau Gwyddelig. Taith gerdded o amgylch yr ystâd yw 'Milltir y Boneddigesau'. [4]

Yr Helyntion golygu

Ar 13 Hydref 1976 yn ystod Helyntion Gogledd Iwerddon saethwyd yn farw William Corrigan (41) y tu allan i'w gartref gan Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon (PIRA). Roedd Corrigan yn aelod o Heddlu Gwirfoddolwyr Ulster (UVF). Saethodd gwirfoddolwyr yr PIRA at ei gar wrth iddo gyrraedd adref. Er bod Cronfa Ddata Sutton yn ei restru fel sifiliaid,[5] mae Lost Lives yn ei restru fel aelod o'r UVF. Mae hefyd yn nodi ei fod wedi derbyn dedfryd ohiriedig o ddwy flynedd am drin arfau, y dywedwyd iddo ei brynu gan filwr Catrawd Amddiffyn Ulster (UDR). Clwyfwyd ei fab Leslie Corrigan (19) yn yr ymosodiad a bu farw ar 25 Hydref 1975.[6]

Addysg golygu

  • Ysgol Gynradd Eanach Mór
  • Ysgol Gynradd Sant Padrig
  • Ffurfiwyd Ysgol Gynradd Sirol Orchard yn 2005 ar ôl uno dwy ysgol gynradd leol Ysgol Gynradd Eanach Mór ac Ysgol Gynradd Tulaigh Uí Ruáin

Cyn rheilffordd golygu

Agorwyd gorsaf reilffordd Eanach Mór gan y Portadown, Dungannon and Omagh Junction Railway Company ar 5 Ebrill 1858. Fe'i caewyd gan Awdurdod Trafnidiaeth Ulster ar 15 Chwefror 1965. [7]

Chwaraeon golygu

Mae gan Annaghmore glwb Gymdeithas Athletau Gwyddelig, Cumann Phiarsaigh Eanach Mór, a sefydlwyd ym 1915. [8] Ar hyn o bryd mae'r clwb yn chwarae ym mhencampwriaeth bêl-droed Wyddelig iau'r sir.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Annaghmore". IreAtlas Townlands Database. Cyrchwyd 13 May 2015.
  2. "Annaghmore". Census 2011 Results. NI Statistics and Research Agency. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ebrill 2015. Cyrchwyd 14 Mehefin 2021.
  3. "Place Names NI - Annaghmore, County Armagh". www.placenamesni.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-14. Cyrchwyd 2021-06-14.
  4. National Trust website on Ardress House
  5. "CAIN: Sutton Index of Deaths". cain.ulster.ac.uk. Cyrchwyd 2021-06-14.
  6. McKittrick, David. Lost Lives. Mainstream, 1999. tudalen.682
  7. "Annaghmore station" (PDF). Railscot - Irish Railways. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 September 2007. Cyrchwyd 2007-09-08.
  8. List of Armagh GAA clubs