Ymadrodd yw Echel y Fall (Saesneg: Axis of Evil) a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf gan George W. Bush, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn 2002 i ddisgrifio Gogledd Corea (dan arweinyddiaeth Kim Jong-il), Iran (dan arweinyddiaeth Mohammed Khatami) ac Irac Saddam Hussein. Honnodd fod y gwledydd hyn, ac eraill, yn cydweithredu â'i gilydd yn erbyn gwareiddiad y Gorllewin; honiad a ddefnyddid i berswadio cynghreiriaid yr Unol Daleithiau i ymuno yn y rhyfel yn erbyn Irac yn 2003.

Echel y Fall
Enghraifft o'r canlynolslogan gwleidyddol, grŵp daearwleidyddol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu29 Ionawr 2002 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGogledd Corea, Iran, Irac Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwledydd yn "Echel y Fall" yn ôl George W. Bush: Iran, Irac, a Gogledd Corea (coch).
Gwledydd "Tu hwnt i Echel y Fall" yn ôl John R. Bolton: Ciwba, Libia, a Syria (oren).
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.