Echel y Fall
(Ailgyfeiriad o Echel y fall)
Ymadrodd yw Echel y Fall (Saesneg: Axis of Evil) a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf gan George W. Bush, arlywydd yr Unol Daleithiau, yn 2002 i ddisgrifio Gogledd Corea (dan arweinyddiaeth Kim Jong-il), Iran (dan arweinyddiaeth Mohammed Khatami) ac Irac Saddam Hussein. Honnodd fod y gwledydd hyn, ac eraill, yn cydweithredu â'i gilydd yn erbyn gwareiddiad y Gorllewin; honiad a ddefnyddid i berswadio cynghreiriaid yr Unol Daleithiau i ymuno yn y rhyfel yn erbyn Irac yn 2003.
Enghraifft o'r canlynol | slogan gwleidyddol, grŵp daearwleidyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 29 Ionawr 2002 |
Yn cynnwys | Gogledd Corea, Iran, Irac |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |