Echelin y cymesuredd

Mewn mathemateg (a bioleg) math o gymesuredd yw cymesuredd cylchdro; sef nodwedd lle mae siâp yn parhau i edrych yn union yr un peth, wedi iddo gael ei droi, neu ei gylchdroi. Mae graddfa'r cymesuredd yn fesur o'r cylchdro hwnnw.

Y 'trisgell' yw baner cenedlaethol Ynys Manaw, ac mae'n enghraifft o gymesuredd cylchdro. Mae traean tro llawn yn ei osod yn yr un lle, yn yr un siâp ac yr oedd.

Mewn gofod dau ddimensiwn fe'i gelwir yn defnyddir y term 'echelin', ond mewn 3D, fe'i gelwir yn "blân y cymesuredd".

Ceir mathau gwahanol o gymesuredd hefyd mewn cerddoriaeth, iaith, gwrthrychau haniaethol, modelu mathemategol theori a hyd yn oed gwybodaeth.[1] Gellir ei ganfod o fewn gwrthrychau pob dydd megis person, crisialau, cwilt ar wely, teils ar lawr, adeiladau, moleciwlau neu o fewn y byd natur ac o fewn gwrthrychau haniaethol megis fformiwlâu mathemategol.

Termau perthynasol golygu

  • tarddiad (neu darddbwynt)- y pwynt canol, llonydd; o'i gwmpas y cylchdroir y siâp
  • cyfeiriadedd: lleoliad, orientation
  • isometreg - Isometry

Cyfeiriadau golygu

  1. Mainzer, Klaus (2005). Symmetry And Complexity: The Spirit and Beauty of Nonlinear Science. World Scientific. ISBN 981-256-192-7.