Ynys Manaw
Gwlad Geltaidd ac ynys fwyaf Môr Iwerddon yw Ynys Manaw (Manaweg: Ellan Vannin) a chanddi statws tiriogaeth ddibynnol y Goron. Mae iddi arwynebedd o 572 km² (221 milltir sgwâr) a phoblogaeth o 84,497 (yn 2011).[1] Bu farw Ned Maddrell, siaradwr cynhenid olaf y Fanaweg, yn 1974, ond mae'r iaith wedi cael ychydig o adfywiad yn ddiweddar. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 1,823 yn gallu siarad, darllen neu ysgrifennu'r iaith.[1]
Arwyddair | Whithersoever you throw it, it will stand |
---|---|
Math | Tiriogaethau dibynnol y Goron, gwladwriaeth |
Prifddinas | Douglas |
Poblogaeth | 83,314 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Arrane Ashoonagh Vannin |
Pennaeth llywodraeth | Howard Quayle |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Manaweg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | British Islands, cenhedloedd Celtaidd, Gogledd Ewrop |
Gwlad | Ynys Manaw |
Arwynebedd | 572 km² |
Cyfesurynnau | 54.235°N 4.525°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Isle of Man Government |
Corff deddfwriaethol | Tynwald |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arglwydd Manaw |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of the Isle of Man |
Pennaeth y Llywodraeth | Howard Quayle |
Arian | punt sterling, Manx pound |
Cyfartaledd plant | 1.65 |
Mae gan yr ynys hunanlywodraeth yn ddibynnol ar y Goron Brydeinig. Senedd yr ynys yw'r Tynwald, a sefydlwyd yn 979. Douglas yw'r brifddinas. Snaefell yw'r mynydd uchaf a'r unig fynydd go iawn, er bod sawl bryn ar yr ynys hefyd.
Hanes
golygu- Prif: Hanes Ynys Manaw
Mae treftadaeth Ynys Manaw yn gyfuniad o ddylanwadau Celtaidd a Llychlynnaidd. Sefydlodd y Senedd Tynwald gan y Llychlynwyr a rheolwyd yr Ynys gan frenhinoedd Llychlynnaidd, Albanaidd a Seisnig yn yr Oesoedd Canol. Yna fe reolwyd yr Ynys gan Arglwyddi Manaw annibynnol o 1406 tan 1765, pan ddaeth o dan feddiant y Goron Brydeinig.[2]
Iaith a diwylliant
golygu- Gweler hefyd: Llenyddiaeth Fanaweg.
- Gweler hefyd: Manaweg.
Trefi a phentrefi
golyguTrefi swyddogol yr ynys yw:
- Castletown Balley Chashtal
- Douglas (prifddinas) Doolish
- Peel Purt ny hInshey
- Ramsey Rhumsaa
Ardaloedd swyddogol yr ynys yw:
Y pentrefi swyddogol yw:
- Laxey Laksaa
- Port St. Mary Purt le Moirrey
- Port Erin Purt Çhiarn
Poblogaeth
golyguMae poblogaeth yr ynys wedi tyfu'n weddol gyson, mae hyn i'w weld o'r ffigyrau ar y cyfrifiad. Mae'r poblogaeth wedi dwblu rhwng 1821 a 2006.[3]
Poblogaeth Ynys Manaw yn ôl cyfrifiadau | ||
1821 | 27/28 Mai | 40,081 |
1831 | 29/30 Mai | 41,000 |
1841 | 6/7 Mehefin | 47,975 |
1851 | 30/31 Mawrth | 52,387 |
1861 | 7/8 Ebrill | 52,469 |
1871 | 2/3 Ebrill | 54,042 |
1881 | 3/4 Ebrill | 53,558 |
1891 | 5/6 Ebrill | 55,608 |
1901 | 31/1 Mawrth/Ebrill | 54,752 |
1911 | 2/3 Ebrill | 52,016 |
1921 | 19/20 Mehefin | 60,284 |
1931 | 26/27 Ebrill | 49,308 |
1939 | Amcangyfrif | 52,029 |
1951 | 8/9 Ebrill | 55,253 |
1961 | 23/24 Ebrill | 48,133 |
1966 | 24/25 Ebrill | 50,423 |
1971 | 25/26 Ebrill | 54,581 |
1976 | 4/5 Ebrill | 61,723 |
1981 | 5/6 Ebrill | 66,101 |
1986 | 6/7 Ebrill | 66,060 |
1991 | 14/15 Ebrill | 71,267 |
1996 | 14/15 Ebrill | 74,680 |
2001 | 76,315 | |
2006 | 23 Ebrill | 80,058 |
2011 | 27/28 Mawrth | 84,497 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Isle of Man Census Report 2011 Archifwyd 2013-11-05 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 21 Ionawr 2013.
- ↑ "Isle of Man Government - Isle of Man – an overview". www.gov.im. Cyrchwyd 2024-05-31.
- ↑ (Saesneg) Poblogaeth ar gyfrifiadau Ynys Manaw Archifwyd 2009-11-13 yn y Peiriant Wayback