Eddie Smart
Seiclwr rasio a hyfforddwr Cymreig o Gasnewydd oedd Edward Charles Smart, adnabyddwyd fel Eddie Smart (23 Awst 1946 – 6 Mawrth 2000).[1][2] Cynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 1966 yn Kingston, Jamaica, gan gystadlu yn y ras scratch, kilo, sbrint, pursuit a'r ras ffordd. Roedd yn rhedeg garej ar Maindy Road, gyferby'n â'r trac seiclo. Fe hyfforddodd Smart nifer o reidwyr ifanc, roedd hefyd yn cydlynydd trac Undeb Beicio Cymru, ac yn aelod o bwyllgor cyngrhair trac Maindy.
Eddie Smart | |
---|---|
Ganwyd | 23 Awst 1946 Caerdydd |
Bu farw | 6 Chwefror 2000 o damwain cerbyd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon |
Roedd Steve Jones ac Eddie Smart yn ddau o'r brif helpwyr yn y Junior Tour of Wales. Lladdwyd hwy mewn damwain car ar draffordd yr M4 yn Berkshire. Mae trefnydd y ras, John Richards, yn cyflwyno Tarian Goffa yn eu henwau, i'r reidiwr Cymreig gorau yn y ras pob blwyddyn. [3][4] Sefydlwyd Cronfa Goffa Eddie Smart er mwyn ailwampio'r trac fel y buasai wedi hoffi.[5]
Palmarès
golygu- 15fed Kilo, Gemau'r Gymanwlad
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cofrest genedigaethau Lloegr a Chymru, Edward C Smart Gorffennaf/Awst/Medi 1946; Cerdydd; Llysenw mam: Davey; Cyfrol: 8b; Tudalen: 199
- ↑ Cofrest marwolaethau Lloegr a Chymru, Edward Charles Smart; Dyddiad geni: 23 Aug 1946; Dyddiad cofrestru marwolaeth: Mawrth 2000; Ardal: Gorllewin Berkshire; Rhif cofrestr: 50E; Rhif cofnod: 245
- ↑ Dudley's Shopfitters Junior Tour of Wales Cycle Race 2005. Welsh Cycling (8 Awst 2005).
- ↑ RIS JUNIOR TOUR OF WALES. Welsh Cycling (10 August 2006).
- ↑ Eddie Smart Memorial Fund. Cardiff JIF (27 March 2000).