Edith Lucy Austin
Roedd Edith Lucy Greville (née Austin 15 Rhagfyr 1867 – 27 Gorffennaf 1953) yn chwaraewr tenis benywaidd o Loegr a oedd yn weithgar o'r 1890au hyd tua 1920. Roedd hi'n briod â'i chyd-chwaraewr George Greville.[1]
Edith Lucy Austin | |
---|---|
Ganwyd | 15 Rhagfyr 1867 Penarlâg |
Bu farw | 27 Gorffennaf 1953 Fulham |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Cefndir
golyguGaned Austin ym Mhenarlâg yn ferch i'r Parch. Edward Austin, curad Anglicanaidd Brychdyn ac Elizabeth (née Clark) ei wraig. Saeson oedd ei ddau riant a symudon nhw'n ôl i Loegr cyn i Edith fod yn 2 oed. Fe symudon nhw gyntaf i Honiton, Dyfnaint, [2] lle'r oedd ei thad yn ficer, ac yna Rendlesham, Suffolk, lle'r oedd ei thad yn rheithor. Yn ystod eu harhosiad ym Mhenarlâg daeth y teulu yn gyfeillgar a William Ewart Gladstone a'i deulu ef. Bu farw Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig, brawd yng nghyfraith Gladstone, mewn gorsaf trên toc wedi bod ar ymweliad a'r teulu Austin. [3]
Gyrfa Tenis
golyguRhwng 1893 a 1919, cymerodd ran 16 gwaith yng ngemau sengl Pencampwriaethau Wimbledon. Cafodd ei chanlyniad gorau ym 1894 a 1896 pan gyrhaeddodd rownd derfynol y twrnamaint agored i bawb. Ym 1894 collodd i Blanche Hillyard mewn setiau syth, gan ennill dwy gêm yn unig a daeth Hillyard yn bencampwr, gan na wnaeth deiliad y teitl, Lottie Dod, amddiffyn ei theitl. Ym 1896 collodd rownd derfynol y twrnamaint agored i bawb mewn tair set i Alice Pickering. Yn ei dau ymddangosiad diwethaf yn Wimbledon ym 1913 a 1919 chwaraeodd hefyd yn y gemau dwbl a dyblau cymysg. .[1]
Enillodd deitl y senglau ym Mhencampwriaethau Caint ar chwe achlysur (1894-97, 1899, 1900).[4]
Ym 1894, trechodd May Arbuthnot mewn rownd derfynol tair set i ennill teitl senglau Pencampwriaethau Maes Gorchuddiedig Prydain, a chwaraewyd ar gyrtiau pren yng Nghlwb y Frenhines yn Llundain. Methodd Arbuthnot â throsi dau bwynt cyfateb. Y flwyddyn ganlynol, 1895, collodd ei theitl yn y rownd her i Charlotte Cooper. Rhwng 1896 a 1899 enillodd bedwar teitl yn olynol, gan drechu Cooper ddwywaith yn y rownd derfynol. Ym 1894, 1899 a 1901 enillodd dwrnamaint cwrt glaswellt Pencampwriaethau Clwb y Frenhines.[1]
Yn 1896 roedd hi'n ail ym Mhencampwriaethau De Lloegr yn Eastbourne, gan golli'r rownd derfynol i Blanche Bingley-Hillyard mewn tair set.
Teulu
golyguYm 1899, priododd ei chyd-chwaraewr tenis Turketil George Pearson Greville, mab y Llyngesydd Cefn John Stapleton Greville,[5] disgynnydd i deulu Ieirll Warwick.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei chartref 6 Kensington Hall Gardens, Llundain yn 85 mlwydd oed. [6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Edith Lucy Austin Alias: Mrs T.G.P.Greville
- ↑ "TipynoBobPeth - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1869-10-30. Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ "DEATH OF SEESTEPHEN R GLYNNE BART HAWARDEN CASTLE - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1874-06-20. Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ "Kent Championships – Ladies' Singles Roll of Honour"
- ↑ Archifau Metropolitan Llundain; Llundain, Lloegr; Rhif Cyfeirnod: P84 / PET2 / 006 Cofrestr Priodasau St Matthias, Earls Court, Kensington and Chelsea
- ↑ Calendr Profiant Cenedlaethol (Mynegai Ewyllysiau a Gweinyddiaethau) Cymru a Lloegr, 1953 ar gyfer Edith Lucy Greville