Agor y brif ddewislen

Mae Penarlâg (Saesneg: Hawarden) yn dref yn nwyrain Sir y Fflint, ar gyffordd yr A55 a'r A550 tua 6 milltir i'r gorllewin o ddinas Caer dros y ffin. Mae Llyfrgell Deiniol Sant, a sefydlwyd gan William Ewart Gladstone yno. Bu'r Rhyddfrydwr enwog fyw yn y pentref am dros 60 mlwydd. Deiniol yw nawddsant y plwyf. Ceir maes awyr bychan ger y pentref.

Penarlâg
Hawarden Castle.jpeg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir y Fflint Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Ewlo Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.182°N 3.02°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000190 Edit this on Wikidata
Cod OS SJ315655 Edit this on Wikidata
Cod post CH5 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jack Sargeant (Llafur)
AS/au Mark Tami (Llafur)
Erthygl am y pentref yw hon. Am y cwmwd canoloesol gweler Penarlâg (cwmwd).

Eglwys Ddeiniol SantGolygu

Mae'r eglwys yn dyddio o'r 13g os nad cynt ac yn gysegredig i Sant Deiniol, esgob cyntaf Bangor. Ond cafodd yr hen eglwys ei llosgi i gyd bron yn 1857. Codwyd yr eglwys newydd gan y pensaer Scott ac mae'n cynnwys nifer o ffenestri lliw godidog gan yr arlunydd cyn-Raffaelaidd Edward Burne-Jones.

Castell PenarlâgGolygu

Cafodd Castell Penarlâg ei godi gan arglwyddi Normanaidd Caer. Fe'i cipiwyd a'i dinistrio gan Dafydd ap Gruffudd, gweithred a fu'n un o symbylau Ail Ryfel Annibyniaeth Cymru. Ni ddylid ei gymysgu â'r ffug-gastell o'r 18g a elwir hefyd yn Gastell Penarlâg, cartref Gladstone.

EnwogionGolygu

OrielGolygu

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu