Edith Mansell-Moullin
Ymgyrchydd dros y bleidlais i fenywod a gweithredwraig gymdeithasol o dras Gymreig oedd Edith Mansell-Moullin (Medi 1858 – 5 Mawrth 1941). Gyda balchder yn ei thras Gymreig, sefydlodd 'Cymric Suffrage Union' yn Llundain gyda'r nod o gael y bleidlais i fenywod Cymru. Cyd-drefnodd y garfan Gyrmeig o brosesiwn mawr y Women's Suffrage Union yn y ddinas yn 1911. Fel un o'r garfan fwyaf gweithredol o'r mudiad, cafodd ei charcharu am ei gwrthwynebiad ac am wrthod rhoi'r gorau i ymgyrchu yn erbyn y llywodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Edith Mansell-Moullin | |
---|---|
Ganwyd | 1859 |
Bu farw | 5 Mawrth 1941 Llundain |
Galwedigaeth | ymgyrchydd, ymgyrchydd cymdeithasol, swffragét |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Edith Ruth Thomas ym Medi 1858 i Anne (née Lloyd) a David Collet Thomas. Ar ôl iddi gwblhau ei haddysg, bu'n gweithio yn y slyms yn Bethnal Green a pharhaodd i wneud hynny ar ôl iddi briodi'r llawfeddyg adnabyddus Charles William Mansell-Moullin, a oedd yn gweithio yn Ysbyty Frenhinol Llundain.[1] Bu'n dyst i Streic y 'Match Girl' yn 1888 a chynorthwyodd weithwyr y dociau mewn cegin gawl yn ystod Streic Dociau Llundain yn 1889. Parhaodd i weithio mewn tai cymdeithasol tan tua[2] 1906, pan ymunodd â'r Women's Industrial Council a dod yn gadeirydd Pwyllgor Archwilio y Cyngor.[3] Ymunodd hefyd â'r Women's Social and Political Union (WSPU) tua 1907 a daeth yn drysorydd cyntaf y Church League for Women's Suffrage.[4] Roedd y ddau Mansell-Moullins yn ymgyrchu i sicrhau'r bleidlais i fenywod. Roedd Charles yn perthyn i'r Men's League for Women's Suffrage a bu'n is-lywydd. Roedd Edith Mansell-Moullin yn aelod o'r Women's Freedom League yn ogystal â'r WSPU.[1]
Cymerodd Mansell-Moullin ran mewn nifer o brotestiadau, yn cynnwys yr un a gynhaliwyd yn Hyde Park yn 1910, pan rhannodd y llwyfan gyda Emmeline Pankhurst.[5] Ar 17 Mehefin 1911, gorymdeithiodd 40,000 o fenwyod yn yr "Ardystiad Mawr" a noddwyd gan y Women’s Suffrage Union, fel rhan o brosesiwn coroni Siôr V. Trefnodd Mansell-Moullin y garfan Gymreig o'r orymdaith gyda Rachel Barrett ac anogodd y Cymry i wisgo'r wisg Gymreig.[6] Roedd yn falch iawn o'i thras Gymreig,[1] ac ar ol y prosesiwn, sefydlodd y Cymric Suffrage Union (CSU),[7] gyda'r nod o sicrhau'r bleidlais i fenywod Cymru. Er ei fod wedi'i leoli yn Llundain yn bennaf, roedd canghennau o'r CSU yng Nghymru ac aeth ar deithiau i ogledd Cymru gan siarad yn gyhoeddus o blaid y bleidlais i fenywod.[1] Cyfieithodd y CSU ddogfennau am yr etholfraint i'r Gymraeg a'u dosbarthu i eglwysi a chynulleidfaoedd Cymreig.[7] Yn Nhachwedd 1911, cymerodd Mansell-Moullin ran mewn ardystiad o flaen y Senedd ac yr oedd yn un o 200 o fenywod gafodd eu arestio.[8] Cafodd ei chyhuddo o darfu ar yr heddwch a cheisio torri llinellau'r heddlu, a gwadodd hynny. Cafodd ei dedfrydu a threuliodd bum diwrnod yng Ngharchar Holloway.[1]
Yn dilyn ei charchariad, ymwasgarodd y CSU a ffurfiwyd mudiad mwy gweithredol, y Forward Cymric Suffrage Union (FCSU),[7] yn Hydref 1912. Roedd ei gŵr a hithau yn llafar yn erbyn gorfodi bwydo swffragetiaid yn y carchardai a trodd cartref Mansel Moullin yn ganolfan ar gyfer trafod strategaeth. Yn 1913 daeth Mansel Moullin yn ysgrifennydd mygedol i'r grwp a ffurfiwyd gan Sylvia Pankhurst er mwyn diddymu'r Cat and Mouse Act. Cymerodd y ddeddf hon le'r bwydo drwy orfodaeth trwy ryddhau carcharorion pan aent yn sâl oherwydd diffyg bwyd, ac yna ei hail-garcharu cyn gynted ag yr oeddynt wedi gwella.[1] Yr un flwyddyn, rhoddodd Dr. Mansel Moullin driniaeth i Emily Davison wedi iddi gael ei sathru gan geffyl y brenin yn y Derby, ond methodd ag achub ei bywyd.[5]
Ymddiswyddodd Mansel Moullin o'r WSPU,[5] yn rhannol oherwydd ei benderfyniad i roi'r gorau i brotestio yn erbyn y llywodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[9] Roedd hi'n heddychwraig, ac felly yn erbyn y rhyfel, ac yn credu na ddylid ildio cyfrifoldeb cymdeithasol o'i herwydd.[1] Cafodd ei chynhyrfu gan yr arfer o arestio gweithwyr Almeinig yn y mwyngloddfeydd yng Nghymru, a'r effaith roedd hynny'n ei gael ar eu teuluoedd, a bu Mansel Moullin yn apelio ar eu rhan ac yn codi arian trwy'r FCSU i'w cynorthwyo.[10] Anfonodd hefyd lythyrau yn protestio yn erbyn y cyflogau isel roedd menywod yn eu derbyn yn ystod y Rhyfel, gan alw am arian cyhoeddus i gael ei ddefnyddio i ychwanegu at eu cyflogau.[11] Ymddiswyddodd o'i swyddogaethau yn y FCSU yn 1916 oherwydd pryderon ynghylch ei iechyd, er iddi barhau i weithio mewn rhaglenni cymdeithasol a gyda mudiadau heddwch. Yn 1931, bu'n gadeirydd y Society for Cultural Relations gyda'r USSR ac yn gweithio fel gwirfoddolwraig yn St Dunstan's, a oedd yn rhoi cartref i gynfilwyr dall.[1]
Bu farw Mansel Moullin ar Mawrth 1941 yng nghartref ei mab yn Llundain, flwyddyn ar ôl marwolaeth ei gŵr.[1]
Cydnabyddiaeth
golyguMae ei henw a'i llun (ynghyd â 58 o rai eraill a gefnogodd y bleidlais i fenywod) ar blinth y cerflun o Millicent Fawcett yn Parliament Square, Llundain, a ddadorchuddiwyd yn 2018.[12][13][14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 John 2010.
- ↑ Crawford 2003, t. 374.
- ↑ Crawford 2003, t. 186.
- ↑ Crawford 2003, tt. 374–375.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Crawford 2003, t. 375.
- ↑ Welsh Hat 2016.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Smith 2014, t. 48.
- ↑ The Manchester Guardian 1911, t. 7.
- ↑ Wilson & Herman 2004, t. 76.
- ↑ The Manchester Guardian 9/1914, t. 2.
- ↑ The Manchester Guardian 10/1914, t. 5.
- ↑ "Historic statue of suffragist leader Millicent Fawcett unveiled in Parliament Square". Gov.uk. 24 April 2018. Cyrchwyd 24 April 2018.
- ↑ Topping, Alexandra (24 April 2018). "First statue of a woman in Parliament Square unveiled". The Guardian. Cyrchwyd 24 April 2018.
- ↑ "Millicent Fawcett statue unveiling: the women and men whose names will be on the plinth". iNews. Cyrchwyd 2018-04-25.