Emily Davison
Swffraget oedd Emily Wilding Davison (11 Hydref 1872 – 8 Mehefin 1913) a fu farw pan daflodd ei hunan o dan "Anmer", geffyl brenin Lloegr, yn ystod ras fawr y 'Derby' yn Epsom fel rhan o'r ymgyrch dros ennill y bleidlais i ferched.
Emily Davison | |
---|---|
Ganwyd | 11 Hydref 1872 Blackheath |
Bu farw | 8 Mehefin 1913 Epsom |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, athro |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Wedi'i geni yn Blackheath, Llundain, roedd Davison eisoes wedi cael ei charcharu dros yr achos, wedi ymprydio ac wedi cael ei gorfodi i fwyta pan benderfynodd gyflawni ei gweithred fawr. Fel na fyddai neb yn camddeall ei rhesymau, fe gariodd gyda hi faner yn lliwiau'r swffragéts: gwyrdd a phorffor.
Denodd ei hangladd filoedd o'i chefnogwyr. Bu'n fyfyrwraig ar un adeg yng Ngholeg Sant Huw, Rhydychen, ac mae ei marwolaeth wedi'i chofnodi'n syml iawn yng nghofrestr y coleg â'r geiriau "Died at Epsom" heb ddim esboniad pellach. Mae cofeb gudd i Emily Davison wedi'i chuddio o dan Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan gan y gwleidydd Tony Benn.[1]