Edouard Bachellery
Ysgolhaig Celtaidd o Ffrainc oedd Edouard Bachellery (6 Hydref 1907 — 11 Awst 1988), sy'n adnabyddus yng Nghymru fel golygydd gwaith y bardd Cymraeg canoloesol Gutun Owain.
Edouard Bachellery | |
---|---|
Ganwyd | 6 Hydref 1907 Béziers |
Bu farw | 11 Awst 1988 Vaucresson |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor |
Astudiodd Sbaeneg yn y Sorbonne, Paris, lle dechreuodd ymddiddori yn y Celtiaid a'u llenyddiaeth. Daeth yn ddisgybl i'r Athro Joseph Vendryes ac yn 1941 cafodd ei ethol yn bennaeth Astudiaethau Celtaidd yn yr École Pratique des Hautes Études (Ysgol Uwchefrydiau) yn y Sorbonne.[1]
Bu'n olygydd y cylchgrawn astudiaethau Celtaidd Ffrangeg Études celtiques o 1948 hyd 1977. Cydweithiodd gyda'i hen athro, Vendryes, ar eiriadur Hen Wyddeleg. Cyfranodd nifer o erthyglau i Études celtiques a chylchgronau academaidd eraill, ond ei brif waith ysgolheigaidd yw ei olygiad mewn dwy gyfrol fawr o waith Gutun Owain, un o'r pennaf o Feirdd yr Uchelwyr yn y 15g, sef L'Œuvre poétique de Gutun Owain. Yn ogystal â nodiadau manwl mae'r gwaith yn cynnwys cyfieithiadau i'r Ffrangeg o bob cerdd.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- L'Œuvre poétique de Gutun Owain, 2 gyfrol (Paris, 1950, 1957)
- (gyda Pierre-Yves Lambert), Das etymologische Wörterbuch : Fragen der Konzeption und Gestaltung (Regensberg : Friedrich Pustet, 1983)