Edvard Grieg
Cyfansoddwr a phianydd o Norwy oedd Edvard Hagerup Grieg [ˈɛdʋɑʁd ˈhɑːgəʁʉp ˈgʁɪg] (15 Mehefin 1843, Bergen - 4 Medi 1907).
Edvard Grieg | |
---|---|
Evard Grieg yn 1891. Portread mewn olew gan ei gyd-Norwywr Eilif Peterssen. | |
Ganwyd | Edvard Hagerup Grieg 15 Mehefin 1843 Bergen |
Bu farw | 4 Medi 1907 Bergen |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, pianydd |
Adnabyddus am | Piano Concerto, Holberg Suite, In the Hall of the Mountain King, Peer Gynt Suites, Peer Gynt |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Mam | Gesine Hagerup |
Priod | Nina Grieg |
Gwobr/au | Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav |
llofnod | |
Caiff ei adnabod yn bennaf am ei Goncerto Piano mewn A Leiaf ac am ddarnau achlysurol (incidental music) megis Peer Gynt a gyfansoddodd ar gyfer drama Henrik Ibsen; (sy'n cynnwys y darn Morning Mood a In the Hall of the Mountain King). Caiff ei gofio hefyd am ei weithiau bach Lyric Pieces.[1]
Bywgraffiad
golyguGanwyd Edvard Hagerup Grieg yn Bergen, Norwy, ar 15 Mehefin 1843. Marchnatwr oedd ei dad Alexander Grieg (1806–1875), yn Bergen, ac enw'i fam oedd Gesine Judithe Hagerup (1814–1875), a oedd yn athrawes gerdd ac yn ferch i Edvard Hagerup.[2][3] Sillafwyd y cyfenw'n wreiddiol yn "Greig", enw a ellir ei olrhain i'r Alban. Roedd hen-daid Greig yn filwr ym Mrwydr Culloden ym 1746 ond a deithiodd lawer tan iddo ymsefydlu yn Norwy ym 1770.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Edvard Grieg (Store norske leksikon)
- ↑ Benestad, Finn. "Edvard Grieg". In Helle, Knut (gol.). Norsk biografisk leksikon (yn Norwyeg). Oslo: Kunnskapsforlaget. Cyrchwyd 10 Medi 2011.
- ↑ Benestad; Schjelderup-Ebbe (1990) [1980]. pp. 25–28