Edward Carnes

argraffydd a llyfrwerthwr

Argraffydd a llyfrwerthwr Cymreig oedd Edward Carnes (c.1772 - 25 Mai 1828)[1] a oedd yn frawd i William Carnes. Ardal eu mebyd oedd Treffynnon, Sir y Fflint.

Edward Carnes
Ganwydc. 1772 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 1828 Edit this on Wikidata
o teiffws Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethargraffydd, llyfrwerthwr, rhwymwr llyfrau, gwerthwyr deunydd ysgrifennu Edit this on Wikidata

Yn ôl y dystiolaeth cychwynnodd Edward ar waith argraffu tua mis Mehefin 1796. Mae'n bosibl y bu'n llyfrwerthwr cyn hynny ac o'r herwydd yn gyfarwydd â'r byd cyhoeddi Cymraeg a Saesneg. Un enghraifft o'i ddawn fel crefftwr ydy'r gwaith a gyflawnodd i David Jones gydag argraffiad 1823 o Flodeu-Gerdd y Cymry. Bu'r ddau frawd yn weithgar yn yr un dref, gan fod swyddfa Edward yn Stryd Whitford yn 1828, tra roedd William yn rhwymo llyfrau yn Stryd y Ffynnon tua'r un cyfnod. Bu farw Edward Carnes o'r dwymyn ar 25 Mai 1828 yn 58 oed.

Ffynonellau golygu

  • A History of Printing and Printers in Wales to 1810, and of Successive and Related Printers to 1923, Ifano Jones, (1925).

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd 2 Mehefin 2016