Blodeu-gerdd Cymry

Blodeugerdd Gymraeg a gyhoeddwyd gan Dafydd Jones o Drefriw yn 1759 gydag ail-argraffiad yn 1779 yw Blodeu-gerdd Cymry (sic). Cafodd y ddau argraffiad ei hargraffu yn Amwythig gan Stafford Prys.[1]

Blodeu-gerdd Cymry

Blodeugerdd boblogaidd ar gyfer y werin bobl oedd y gyfrol fechan ond trwchus o dros 550 tudalen. Cerddi rhydd gyda chryn addurn cynganeddol yw'r rhan fwyaf o'r cerddi, er y ceir hefyd nifer o gerddi caeth mwy traddodiadol. Yn ogystal â gwaith rhai o feirdd mwyaf poglogaidd ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau'r ddeunawfed, fel Owen Gruffydd o Lanystumdwy a Huw Morys, ceir gwaith nifer o feirdd llai y 18g a elwir yn faledwyr - term llac oedd yn cynnwys canu ar bob math o fesurau poblogaidd yn y ganrif honno - fel Elis Cadwaladr. Roedd yn cynnwys yn ogystal un gerdd gan ferch, sef Margared Rowland o Lanrwst.

Er mai cerddi duwiol yw llawer o'r cerddi cyfoes hynny, roedd y gyfrol yn cynnwys nifer o gerddi ysgafnach, fel cerddi serch, cerddi ymddiddan a cherddi digrif, ac roedd llach y Methodistiaid yn drwm arni am hynny. Yn eu barn nhw roedd yn gyfrol a gynhwysai canu lled-Babyddol a masweddol oherwydd dyma'r fath o gerddi a genid adeg y Gwylmabsantau ac yn y dafarn.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Griffith Milwyn Griffiths, M.A.. JONES , DAVID ( 1708? - 1785 ). Y Llyfrgell Genedlaethol. Adalwyd ar 4 Mai 2012.