Edward FitzGerald (bardd)
bardd a chyfieithydd Saesneg (1809-1883)
Bardd o Sais oedd Edward FitzGerald (31 Mawrth 1809 – 14 Mehefin 1883), a anwyd yn Woodbridge, Suffolk, de Lloegr.
Edward FitzGerald | |
---|---|
Ganwyd | Edward Marlborough Purcell 31 Mawrth 1809 Woodbridge |
Bu farw | 14 Mehefin 1883 Lowestoft |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfieithydd, bardd, llenor, arlunydd, drafftsmon, cyfreithiwr |
Arddull | barddoniaeth |
Tad | John Fitzgerald |
Mam | Mary Frances Fitzgerald |
Priod | Lucy Barton |
llofnod | |
Roedd yn fab i John Purcell, a gymerodd enw ei wraig, FitzGerald, yn 1818. Cafodd ei addysg yn Bury St Edmunds a Coleg y Drindod, Caergrawnt.
Mae FitzGerald yn enwog am ei gyfieithiad rhydd o Rubaiyat Omar Khayyam, a gyhoeddwyd yn 1859.
Mae ei weithiau eraill yn cynnwys cyfieithiadau o chwech o ddramâu'r llenor o Sbaenwr Calderon (1600-1681 a'r gerdd hir Salaman and Absal.
Llyfryddiaeth
golyguLlyfrau FitzGerald
golygu- Six Dramas of Calderon (1853)
- Sálaman and Absal (1856)
- The Rubáiyát of Omar Kháyyám (1859)
- Readings in Crabbe (1882)
Llyfrau amdano
golygu- John Griffith Williams, Omar (1981). Astudiaeth yn y Gymraeg o gyfieithiad Fitzgerlad a gwaith Khayyam.