Edward Lear
arlunydd, darlunydd, awdur a bardd Prydeinig (1812-1888)
Arlunydd, awdur, a bardd o Loegr oedd Edward Lear (12 Mai 1812 – 29 Ionawr 1888) sy'n enwog am ei limrigau a'i gerddi digri. Roedd yr 21ain plentyn i Ann a Jeremiah Lear a chafodd ei fagu gan ei chwaer Ann a oedd yn 21 mlynedd yn hun nag ef. Dywedir ei bod wedi gwirioni arno cymaint nes iddi barhau i edrych ar ei ôl nes yr oedd tua 70 oed, pan farwodd.[1]
Edward Lear | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mai 1812 Highgate, Llundain |
Bu farw | 29 Ionawr 1888 Sanremo |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | llenor, bardd, darlunydd, arlunydd, nofelydd, adaregydd, digrifwr, digrifwr |
Adnabyddus am | The Book of Nonsense |
Arddull | celf tirlun, Adareg |
llofnod | |
Roedd yn dioddef o fronceitis, asma a ffitiau epileptig ers oedd yn chwech oed. Dioddefai, hefyd, o salwch meddwl, a alwai ef yn "the Morbids." [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Complete Nonsense of Edward Lear, gol. Jackson Holbrook (Dover Publications, 1951), t.xii
- ↑ Lear, Edward (2002). The Complete Verse and Other Nonsense. New York: Penguin Books. tt. 19–20. ISBN 0142002275.