Sanremo

dinas a chymuned yn yr Eidal

Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Sanremo. Fe'i lleolir yn talaith Imperia yn rhanbarth Liguria yn agos iawn i'r ffin â Ffrainc. Mae ganddi boblogaeth o 57,000 o bobl.

Sanremo
Mathcymuned, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth52,787 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Helsingør, Atami, Budva, Tortona, Bwrdeistref Karlskoga Edit this on Wikidata
NawddsantRomulus of Genoa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Imperia Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd55.96 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr15 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaApricale, Bajardo, Ceriana, Ospedaletti, Perinaldo, Seborga, Taggia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.8175°N 7.775°E Edit this on Wikidata
Cod post18038 Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y ddinas yn ystod y cyfnod Rufeinig ac mae'n adnabyddus fel canolfan dwristiaeth enwog ar hyd arfordir enwog y Riviera. Mae'r ddinas yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol enwog gan gynnwys Gŵyl Gerddorol Sanremo (Festival della canzone italiana di Sanremo) a sefydlwyd yn 1951 ac a ddaeth yn ysbrydoliaeth i gystadleuaeth yr Eurovision a man gorffen ras seiclo undydd 300km o hyd enwog Milano-Sanremo a sefydlwyd yn 1903.

Yn hanesyddol mae'r ddinas yn enwog am gynnal Cynhadledd San Remo a gynhaliwyd yn 1920 ac a luniodd ffiniau a rheolaeth Ffrainc a Phrydain dros y Dwyrain Canol wedi cwymp Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Rhyfel Mawr.

Geirdarddiad

golygu

Mae enw'r ddinas yn gywasgiad llafar o'r enw Sant'Eremo di San Romolo, sy'n cyfeirio at Romulus o Genoa, olynydd Syrus o Genoa. Nodir mewn sawl stori werin fod yr enw yn gyfieithiad o "Saint Remus". Ynganer y ddinas yn y dafodiaeth Ligwraidd lleol fel San Rœmu. Arddelwyd y sillafiad San Remo yn yr Eidaleg hyd nes canol yr 20g a gellir dal ei weld ar rai arwyddion, ond bellach arddelir yr enw fel un gair, ac nid fel dwy. Er hyn, tueddir i gyfeirio at Gytundeb San Remo yn yr hen ffurf.

 
Cardyn post o Sanremo, 1920au

Safai'r ddinas ar aneddiad Rufeinig Matutia neu Villa Matutiana, ymledodd yn yr Oesoedd Canol gyda'r boblogaeth yn symud i dir uwch. Adeiladwyd castell gan y dosbarth rheoli a phentref gaerog i'w hamddiffyn eu hunain rhag cyrchoedd y Sareseniaid.

Bu'r ddinas o dan reolaeth Iarlloedd Ventimiglia ac yna archesgobion dinas Genoa gyfagos. Daeth yn ddinas rydd yn ail hanner y 15g a'r adeg honno ymestynnodd y dref i fryn Pigna a Chadeirlan Sant Syrus - sy'n dal i sefyll fel enghraifft berffaith o bentref canol oesol.

Parhaodd y ddinas yn annibynnol ar Genoa ond wedi concwest y Ffrancwyr o dan Napoleon Bonaparte, meddiannwyd y ddinas gan deulu brenhinol Savoy (a ddaeth maes o law i uno'r Eidal o dan eu teyrnasiad) a'i hymgorffori i Deyrnas Sardinia. Oddi ar yr 18g tyfodd y ddinas yn gyson wrth iddi ddod yn ganolfan dwristaidd. Daeth yn gyrchfan boblogaidd i'r Ymerodres Elisabeth ('Sissi') o Awstria; yr Ymerodres Maria Alexandrovna o Rwsia, a Niclas II, tsar Rwsia. Symudodd y cemegydd a'r dyfeisiwr Swedaidd, Alfred Nobel i'r ddinas ac ymsefydlu yno.

Yn 19–26 Ebrill 1920, cynhaliwyd Gynhadledd San Remo lle benderfynodd y Cynghreiriaid buddugol yn y Rhyfel Mawr ar pa diriogaethau fyddai'n cael eu gategoreiddio yn "Dosbarth A" ar gyfer mandadau Cynghrair y Cenhedloedd. Hynny yw, pa diriogaethau Arabaidd y cyn Ymerodraeth yr Otomaniaid fyddai'n cael eu rheoli, gydag elfen o hunanlywodraeth, gan y grymoedd buddugol yn y Rhyfel - Ffrainc a Phrydain i bob pwrpas. Dyma lle penderfynwyd sefydlu mewn gweithred Palesteina fel tiriogaeth Iddewig (ac Arabaidd).

Esblygiad Demograffeg Sanremo

golygu
Tŵf Poblogaeth
Blwyddyn 1861 1881 1911 1931 1951 1971 1991 2007 2016
Preswylwyr 12.464 18.760 27.013 29.583 40.464 62.210 56.003 56.385 54.824

Enwogion y Ddinas

golygu
  • Italo Calvino, magwyd yr awdur Eidalaidd yn y ddinas
  • Fausto Zonaro (1854-1929) arlunydd adnabyddus a dreuliodd ei flynyddoedd olaf a marw yn y ddinas
  • Girolamo Saccheri (1667-1733), mathemategydd ac Iesuwr
  • Mehmed VI, Swltan olaf Ymerodraeth yr Otomaniaid a fu farw yn Sanremo ar 16 Mai 1926.
  • Alfred Nobel a brynodd villa yn Sanremo in 1891 a bu farw yno yn 1896. Ers 2002 bu'r adeilad yn arddangosfa o ddarganfyddiadau pwysicaf yr 19g, gan gynnwys gwaith ymchwil Nobel ei hun. Mae Sanremo yn parhau i gadw'r cysylltiad gyda Nobel. Pob 10 Rhagfyr (dyddiad ei farwolaeth yn 1896) caiff nifer fawr o flodau o dalaith Imperia, a dinas Sanremo ei danfon i addurno y Gwobr Nobel flynyddol a'r gloddest i ddilyn a gynhelir yn Stockholm.

Gefailldrefi

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "International Exchange". List of Affiliation Partners within Prefectures. Council of Local Authorities for International Relations (CLAIR). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 January 2016. Cyrchwyd 21 November 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)