Edward R. Murrow
Newyddiadurwr a darlledwr o'r Unol Daleithiau oedd Edward R. Murrow, ganwyd Egbert Roscoe Murrow (25 Ebrill 1908 – 27 Ebrill 1965).[1]
Edward R. Murrow | |
---|---|
Ganwyd | Egbert Roscoe Murrow 25 Ebrill 1908 Greensboro |
Bu farw | 27 Ebrill 1965 Pawling |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Priod | Janet Huntington Brewster |
Gwobr/au | Gwobrau Peabody, KBE, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr George Polk, Gwobr George Polk, Television Hall of Fame, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Trustees Award |
llofnod | |
Cafodd Murrow ei eni yn Greensboro, Gogledd Carolina, yn fab i Roscoe Conklin Murrow a'i wraig Ethel F. Murrow (ganwyd Ethel F. Lamb); Crynwyr oeddynt.[2] Ar ôl graddio o'r ysgol uwchradd ym 1926, cofrestrodd Murrow ym Mhrifysgol Talaith Washington. Priododd Janet Huntington Brewster ar 12 Mawrth 1935.
Bu Murrow yn gweithio i CBS a gwneud darllediadau o'r DU yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Winston Churchill eisiau ei wneud yn gyd-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, ond gwrthododd Murrow.
Yn y 1950au, helpodd ei raglen teledu, See It Now, i ddod â mudiad Joseph McCarthy i lawr yn yr UDA.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Edward R. Murrow, Broadcaster And Ex-Chief of U.S.I.A., Dies. The New York Times (28 Ebrill 1965). Adalwyd ar 28 Ebrill 2013.
- ↑ Baker, Anne Pimlott (2004), "Murrow, Edward Roscoe (1908–1965)", Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press
- ↑ Wertenbaker, Charles (26 Rhagfyr 1953). "The World On His Back". The New Yorker. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.