Joseph McCarthy
Gwleidydd o'r Unol Daleithiau oedd Joseph Raymond "Joe" McCarthy (14 Tachwedd 1908 – 2 Mai 1957) oedd yn Seneddwr Gweriniaethol dros Wisconsin o 1947 hyd ei farwolaeth ym 1957. Wrth i'r Rhyfel Oer ddwysáu, arweiniodd ymgyrch, McCarthyaeth, i ddatgelu comiwnyddion ac ysbiwyr Sofietaidd a honnir i weithio yn yr Adran Amddiffyn, y Fyddin, ac adrannau eraill llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau. Enillodd ei ymgyrch gefnogaeth nes gwrandawiadau'r Fyddin—McCarthy ym 1954, pan ofynnodd cwnsler y Fyddin Joseph Welch iddo "At long last, have you left no sense of decency?". O ganlyniad i dactegau McCarthy a'i anallu i brofi ei gyhuddiadau, cafodd ei geryddu gan y Senedd. Bu farw o lid yr afu, yn debyg â chysylltiad i'w alcoholiaeth.
Joseph McCarthy | |
---|---|
Ganwyd | Joseph Raymond McCarthy 14 Tachwedd 1908 Grand Chute |
Bu farw | 2 Mai 1957 Bethesda |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol, barnwr, cyfreithiwr, ffermwr, usher, anti-communist |
Swydd | barnwr, barnwr, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol, plaid Ddemocrataidd |
Priod | Jean Kerr Minetti |
Gwobr/au | Y Groes am Hedfan Neilltuol, Medal Aer |
llofnod | |