Edward Vaughan (gwleidydd)

Gwleidydd Ceidwadol o Gymru oedd Edward Vaughan (bu farw 5 Rhagfyr 1718), o Lan-y-Llyn, sir Feirionnydd a Llwydiarth, sir Drefaldwyn, oedd yn aelod o Dŷ'r Cyffredin am 43 mlynedd o 1675 hyd 1718. Am gyfnod byr, ef oedd "tad y tŷ" sef yr un oedd wedi bod yn aelod am yr amser hiraf.

Edward Vaughan
Ganwyd17 g Edit this on Wikidata
Bu farw5 Rhagfyr 1718 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1681 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Member of the 1695-98 Parliament, Member of the 1698-1700 Parliament, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1701-02, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 Edit this on Wikidata

Roedd yn fab hynaf i Hywel Vaughan o Lan-y-Llyn, Meirionnydd a'i wraig Elizabeth Jones, merch Humphrey Jones o Ddol, Sir y Fflint. Etifeddodd stadau Llwydiarth a Llangedwyn, Sir Ddinbych gan ewythr ei wraig Edward Vaughan AS yn 1661, ac olynodd ei dad yn 1669. Priododd Mary Purcell, merch John Purcell, sef AS Nantcribba, yn 1672.[1]

Penodwyd Vaughan yn ddirprwy-raglaw sir Drefaldwyn a sir Feirionnydd o 1674 hyd 1688; dros sir Feirionnydd o 1689 hyd 1696; a thros sir Drefaldwyn o 1701 hyd at ei farwolaeth. Bu'n Uchel Siryf sir Drefaldwyn rhwng Ionawr-Tachwedd 1688 ac yn Custos Rotulorum sir Feirionnydd o 1711 hyd 1714.[2]

Etholwyd Vaughan yn Aelod Seneddol (AS) dros sir Drefaldwyn mewn etholiadau cyffredinol ym mis Mawrth 1679, mis Hydref 1679, 1681, 1685, 1689,[1] 1690, 1695, 1698, Chwefror 1701, mis Rhagfyr 1701, 1702, 1705, 1705, 1713[2] a 1715.[3]

Bu farw Vaughan ym mis Rhagfyr, 1718. Roedd ganddo ddwy ferch ac un mab, a fu farw o'i flaen. Aeth ei eiddo i'w fab-yng-nghyfraith, Watkin Williams Wynn a briododd ei ferch Ann.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "VAUGHAN, Edward III (d.1718), of Glan-y-Llyn, Merion. and Llwydiarth, Mont" (yn Saesneg). History of Parliament Online (1660-1690). Cyrchwyd 15 Medi 2013.
  2. 2.0 2.1 "VAUGHAN, Edward (d. 1718), of Llwydiarth, Mont" (yn Saesneg). History of Parliament Online (1690-1715). Cyrchwyd 19 Tachwedd 2018.
  3. 3.0 3.1 "VAUGHAN, Edward (d.1718), of Llwydiarth, Mont" (yn Saesneg). History of Parliament Online (1715-1754). Cyrchwyd 19 Tachwedd 2018.