Eesti Keele Instituut

Sefydliad er datblygu a gwarchod yr iaith Estoneg

Yr Eesti Keele Instituut ('Sefydliad yr iaith Estoneg') yw awdurdod swyddogol yr iaith Estoneg sy'n rheoleiddio iaith. Fe'i lleolir ym mhrifddinas Estonia, Tallinn. Ei nod ffurfiol yw cyfrannu at barhad yr iaith Estoneg yn y tymor hir. Mae'r Sefydliad yn ymchwilio i Estoneg fodern, hanes yr iaith Estoneg, tafodieithoedd Estoneg ac ieithoedd cytras Finno-Ugric.[1]

Eesti Keele Instituut
Enghraifft o'r canlynolrheoleiddiwr iaith, sefydliad ymchwil Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadMinistry of Education and Research Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolstate authority administered by ministry Edit this on Wikidata
PencadlysTallinn Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://eki.ee/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ail gyfarwyddwr EKI, Urmas Sutrop
Logo flaenorol Eesti Keele Instituut hyd 2022

Nod cyffredinol yr Institiwt yw cyfrannu at barhad yr iaith Estoneg ar hyd yr oesoedd gyda'i gweithgareddau.[2]

Peidied drysu â'r Eesti Instituut sy'n sefydliad er hyrwyddo diwylliant, iaith a gwerthoedd Estonia dramor, yn debyg i'r Goethe-Institut neu Cyngor Prydeinig.

Sylfaen a hanes

golygu

Rhagflaenydd yr Institiwt oedd y Keele ja Kirjanduse Instituut, KKI ('Sefydliad Iaith a Llenyddiaeth'), a sefydlwyd ym 1947 gan Academi Gwyddorau'r ESSR (Estonia yr Undeb Sofietaidd) yn Tartu, a symudodd i'r brifddinas, Tallinn yn 1952.[3] Mae hyn roedd sefydliad ymchwil pur yn cynnwys tri maes gwyddonol: yn y sector ieithyddol, roedd un yn ymwneud â chreu geiriaduron ac astudio'r ieithoedd Estoneg a Finno-Ugric. Yn y sector astudiaethau llenyddol, ymchwiliwyd i lenyddiaeth Estoneg, a chysegrwyd y trydydd sector i lên gwerin y wlad.

Fe sefydlwyd Eesti Keele Instituut yn 1993 wrth i'r Sefydliad Iaith a Llenyddiaeth gael ei ad-drefnu.[1] Cyfarwyddwr y sefydliad, ers 2020, yw Arvi Tavast.[4]

Gwasanaethau

golygu

Mae'r sefydliad yn cynnal llinell gymorth ffôn y gallwch gysylltu â hi gyda chwestiynau iaith. Mae nifer o eiriaduron hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan y Sefydliad.

Cyfarwyddwyr

golygu
1993-2000: Asta Õim
2000-2015: Urmas Sutrop
2015-2020: Tendr Tõnu
ers 2020: Arvi Tavas

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "EKI.ee - Lühidalt ajaloost". portaal.eki.ee. Cyrchwyd 2 Mawrth 2023.
  2. "Eesti keele instituut" (PDF). OK 1/2017 EKI. Algusaastad PDF lk 73.
  3. s. Eeva Ahven: Pilk paberpeeglisse. Keele ja Kirjanduse Instituudi kroonika 1947–1993. Tallinn: Eesti Keele Sihtasutus 2007.
  4. "Managerial staff". www.eki.ee. Cyrchwyd 29 December 2020.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Estonia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.