Eesti Instituut

Sefydliad er hyrwyddo iaith a diwylliant Estonia dramor

Mae'r Eesti Instituut (Institiwt Estonia) yn sefydliad anllywodraethol a dielw wedi'i leoli yn Tallinn sy'n anelu at hyrwyddo diwylliant Estonia dramor. Sefydlwyd yr institiwt ym 1988/1989[1] fel swyddfa dramor gysgodol ar gyfer mudiad annibyniaeth Estonia gan Lennart Meri, gweinidog tramor cyntaf yn ddiweddarach ac arlywydd cyntaf Estonia ar ôl eu meddiannaeth Sofietaidd. Cyfarwyddwr presennol yr athrofa yw Katrin Maiste.[2]

Eesti Instituut
Enghraifft o'r canlynolsefydliad diwylliannol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
SylfaenyddLlywodraeth Gweriniaeth Estonia Edit this on Wikidata
Isgwmni/auEstonian Institute, Estonian Institute Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolnon-profit association Edit this on Wikidata
PencadlysTallinn Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.estinst.ee/eng/home/ Edit this on Wikidata
Logo'r Eesti Instituut

Peidied drysu â Eesti Keele Instituut (Sefydliad yr Iaith Estoneg) ac Eesti Mälu Instituut (Sefydliad Cof Hanesyddol Estonia).

Cyfredol golygu

 
Lennart Meri (yn 1992) ysgogydd Eesti Instituut, Gweinidog Tramor 1990–1992 ac Arlywydd Estonia 1992-1996

Ar hyn o bryd, mae'r Sefydliad yn cyflogi dwsin o bobl, sy'n gweithio naill ai ym mhrif swyddfa Tallinn neu ganghennau dramor yn y Ffindir (Helsinki, a sefydlwyd ym 1995)[3] a Hwngari (Budapest, sef. 1998);[4] cyn hynny, roedd gan y Sefydliad swyddfeydd yn Sweden (1999-2011) a Ffrainc (2001-2009). Hefyd mae 3 athro iaith a diwylliant Estoneg yn gweithio y tu allan i Estonia.[5]

Mae'r cyfranwyr yn cynnwys nifer o bobl amlwg eu maes fel awduron y testunau, golygyddion, aelodau bwrdd, dylunwyr a chrewyr cymwysiadau technoleg gwybodaeth.

Strwythur golygu

Sail gweithgareddau Sefydliad Estonia fel sefydliad anllywodraethol yw ei gyfansoddiad. Cyfarwyddir y gwaith gan y Cyfarfod Cyffredinol a’r Bwrdd Llywodraethol a etholir am dair blynedd. Mae'r Bwrdd a etholwyd ym mis Medi 2017 yn cynnwys Katrin Maiste (Cadeirydd), Liina Luhats, a Mart Meri. O fis Medi 2017 ymlaen mae gan y sefydliad dielw 37 o aelodau.

Mae'r Sefydliad Estonia yn cael ei gefnogi o gyllideb y wladwriaeth drwy'r Weinyddiaeth Ddiwylliant.[6] Ategir hyn gan gyllid wedi'i dargedu o wahanol ffynonellau ar gyfer ymgymeriadau penodol. Trefnir addysgu iaith a diwylliant Estoneg mewn cydweithrediad agos â'r Weinyddiaeth Addysg ac Ymchwil.

Mae Sefydliad Estonia yn aelod o EUNIC (European Union National Institutes for Culture). Mae gweithgareddau'r Sefydliad yn dibynnu ar egwyddorion cod moeseg sefydliadau anllywodraethol Estonia.

Sefydliad Estonia yn y Ffindir golygu

Cangen y Ffindir o Sefydliad Estonia yw cynrychiolaeth ddiwylliannol gyntaf Estonia dramor. Agorwyd y gangen gan Lennart Meri ar Hydref 10, 1995. Y dyddiau hyn, mae swyddfa gynrychioliadol y Ffindir o Sefydliad Estonia wedi'i lleoli yn yr Eesti Maja a agorwyd yn 2010 yn Suvilahti, Helsinki, lle mae sefydliadau eraill sy'n hyrwyddo Estonia hefyd yn gweithredu.

Nod gweithgareddau cangen y Ffindir o Sefydliad Estonia yw cynnig y diwylliant Estonia gorau i Ffindir sydd â diddordeb yn Estonia ac i sefydliadau sy'n cydweithredu ag Estonia, a thrwy hynny sicrhau gweithrediad amlochrog y cysylltiadau diwylliannol rhwng y Ffindir ac Estonia.

Sefydliad Estonia yn Hwngari golygu

Mae gweithgareddau swyddfa gynrychioliadol Hwngari y Sefydliad Estonia yn seiliedig ar reoliad llywodraeth 130/1994 (X.14), a gwblhawyd rhwng Gweriniaeth Hwngari a Gweriniaeth Estonia. Heddiw, mae Mónika Segesdi yn rheoli swyddfa gynrychioli Hwngari yn Sefydliad Estonia. Cododd yr angen i greu swyddfa gynrychioliadol Hwngari o ystyried nifer ac ansawdd y cyfieithiadau o lenyddiaeth Estoneg a gyhoeddwyd yn Hwngari.

Hanes golygu

 
Arweinwyr mudiad annnibyniaeth Estonia yn 1990, yn eu plith mae Lennart Meri, sylfaenydd Eesti Instituut a sawl arweinydd arall

Sefydlwyd Eesti Instituut yn yr 1980au ar adeg an nad oedd Estonia yn annibynnol a dal i fod yn rhan o'r [[Undeb Sofietaidd] ond eisiau hyrwyddo ei llais genedlaethol, annibynnol ei hun. Roedd sefydlu Sefydliad Estonia fel menter ddinesig yn deillio o'r angen ymarferol i sefydlu cysylltiadau rhyngwladol parhaol, na fyddai bellach yn cael eu rheoli gan yr awdurdodau Sofietaidd. Roedd y cynllun a luniwyd yn haf 1988 gan Lennart Meri yn rhestru tasgau'r Sefydliad fel a ganlyn: datblygu cysylltiadau tramor diwylliannol ac addysgol parhaol a chyflwyno Estonia dramor. Ar 4 Hydref 1988, penderfynodd cyngor diwylliannol y cymdeithasau creadigol a oedd â'r nod o adfer annibyniaeth Estonia, sefydlu'r Eesti Instituut. Rhoddwyd y drwydded swyddogol ym mis Ebrill 1989, ac felly am y chwe mis cyntaf bu'r Sefydliad yn gweithredu diolch i waith gwirfoddolwyr a chefnogaeth ffrindiau Estonia.

Yn ystod ei flynyddoedd cyntaf, cyflawnodd Sefydliad Estonia yn rhannol rôl sbardyn ar gyfer y Weinyddiaeth Materion Tramor a diplomyddion Estonia yn y dyfodol. Roedd pwyntiau gwybodaeth a diwylliant y Sefydliad yn gweithredu mewn gwahanol leoedd yng Ngorllewin Ewrop a Sgandinafia, a datblygodd cryn dipyn yn llysgenhadaeth Gweriniaeth Estonia wrth adfer cysylltiadau diplomyddol. Cyn bo hir aeth pethau â'u cwrs arferol a chanolbwyntiodd y Sefydliad ar gyfleu gwybodaeth am Estonia a hyrwyddo ei diwylliant. Gyda chefnogaeth y wladwriaeth, mae wedi dod yn sefydliad difrifol i gynnal gwleidyddiaeth ddiwylliannol.

Cyhoeddiadau golygu

Sefydliadau tebyg golygu

Mae'r Eesti Instituut yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gydag Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "History of the Estonian Institute".
  2. "History of the Estonian Institute".
  3. "Estonian Institute in Finland".
  4. "Estonian Institute in Hungary".
  5. "History of the Estonian Institute".
  6. "Estonian Institute today". Estonian Institute. Cyrchwyd 3 February 2021.