Eglwys Anglicanaidd Canada
Eglwys Anglicanaidd ymreolus yng Nghanada yw Eglwys Anglicanaidd Canada (Saesneg: Anglican Church of Canada, Ffrangeg: l'Église anglicane du Canada) sydd yn aelod o'r Cymundeb Anglicanaidd.
Enghraifft o'r canlynol | enwad Cristnogol |
---|---|
Aelod o'r canlynol | Cyngor Eglwysi'r Byd |
Gwladwriaeth | Canada |
Gwefan | http://www.anglican.ca/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguCodwyd yr eglwys Anglicanaidd cyntaf yng Nghanada yn Halifax, Nova Scotia, yn 1750. Yr esgob Anglicanaidd cyntaf a gysegrwyd i weithio'r tu allan i Brydain ac Iwerddon oedd Charles Inglis, Esgob Nova Scotia, a hynny yn 1787. Yn 1832 daeth yr Eglwys Anglicanaidd yn eglwys wladol Canada. Sefydlwyd y Synod Cyffredinol yn 1893 i uno a llywodraethu'r amryw esgobaethau.[1]
Strwythur ac aelodaeth
golyguMae gan Eglwys Anglicanaidd Canada 30 o esgobaethau, ac esgob yn bennaeth ar bob un. Mae hefyd dau esgob ychwanegol sydd yn gweithio tu hwnt i ffiniau unrhyw ardal benodol: yr Esgob Ordinari i Luoedd Arfog Canada, a'r Esgob Anglicanaidd Brodorol Cenedlaethol. Trefnir yr esgobaethau yn bedair talaith eglwysig, a phob un dan arweiniad archesgob. Cynhelir synodau lleol a rhanbarthol gan yr esgobaethau a'r taleithiau yn ogystal â'r Synod Cyffredinol sydd yn ymgynnull pob tair mlynedd i lywodraethu'r eglwys ar lefel genedlaethol. Llywydd y Synod Cyffredinol ydy'r primas, sydd yn bennaeth ar Eglwys Anglicanaidd Canada. Lleolir pencadlys yr Eglwys yn Toronto, dinas fwyaf Canada. Ar ddechrau'r 21g roedd rhyw 2,900 o eglwysi a 680,000 o aelodau gan Eglwys Anglicanaidd Canada.[1]
Pynciau llosg
golyguYsgolion preswyl
golyguO'r 19g hyd at 1969, rheolwyd system o ysgolion preswyl gan yr Eglwys Anglicanaidd i gymhathu plant brodorol i'r gymdeithas wen. Roedd camdriniaeth gorfforol a rhywiol yn gyffredin yn yr ysgolion, yn ogystal â'r hiliaeth yn erbyn diwylliant cynhenid y plant. Yn 1993 ymddiheuriodd yr Eglwys yn swyddogol am yr ysgolion, ac yn 2003 cytunodd i dalu $24 miliwn yn iawndal i 80,000 o gyn-ddisgyblion.
Uniadau cyfunryw
golyguErs 2002, bu cryn dadlau yn yr Eglwys ynghylch uniadau cyfunryw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Anglican Church of Canada. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Ionawr 2018.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol