Eglwys Llaneilian
eglwys yn Llaneilian, Ynys Môn
Lleolir Eglwys Llaneilian ym mhentref Llaneilian yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn yn un o eglwysi hynaf yr ynys.
Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llaneilian |
Sir | Llaneilian |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 40.7 metr |
Cyfesurynnau | 53.4106°N 4.30363°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | Eilian |
Manylion | |
Ceir tair cloch yn nhŵr yr eglwys. Mae ynddi gist dderw gyda'r dyddiad 1667 arni. Yn yr hen amser byddai'r plwyfolion yn rhoi darnau grot trwy'r tyllau yn y gist. Ceir gefeiliau hir ac arnynt y dyddiad 1748. Mae'n debyg y defnyddid hwy i gadw'r cŵn draw. Mae darlun o sgerbwd ar y sgrin, ac yn ei ddwylo mae pladur ac arni'r geiriau Colyn angau yw pechod. Yn y nenfwd ceir cerfluniau pren lliwgar o ddynion yn chwarae offerynnau cerdd.
Oriel
golygu
|