Eilian
Sant cynnar o ogledd Cymru oedd Eilian (weithiau Elian, hefyd Eilian Geimiad) (fl. 6g?).[1] Ei ddydd gŵyl yw 13 Ionawr.
Eilian | |
---|---|
Ganwyd | 6 g Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 560 |
Dydd gŵyl | 13 Ionawr |
Mam | Santes Canna |
Hanes a thraddodiad
golyguYn gyfoeswr i'r seintiau Cybi a Seiriol, fe'i cysylltir ag Ynys Môn a chantref Rhos (Sir Conwy). Yn ôl rhai o'r achau traddodiadol, roedd yn fab i'r Santes Canna. Roedd yn nai i Sant Tegfan, a ymsefydlodd ym Môn.[1]
Eglwysi
golyguSefydlodd eglwys yn Llaneilian, Môn. Ceir hen goffr derw 'Cyff Eilian' yn yr eglwys, a ddefnyddid i gadw offrymau iddo. Ceir Ffynnon Eilian ger y traeth yn Llaneilian, lle arferid bendithio da byw.[1]
Cysylltir ef â Chapel Sant Trillo, Llaneilian-yn-Rhos (yn Sir Conwy heddiw), a fu'n enwog ar un adeg am Ffynnon Eilian (arall), sy'n gorwedd tua hanner milltir o eglwys y plwyf. Roedd y ffynnon yn adnabyddus am filltiroedd o gwmpas hyd at ddechrau'r 20g fel "ffynnon felltith". Byddai ceidwad y ffynnon, yn gyfnewid am swm o arian, yn gollwng pin a darn o blwm gyda phapur ag enw rhywun arno wedi'i blygu tu mewn iddo i'r ffynnon ac yn yngan swyn i felltithio'r anffodusyn. Ond roedd yn ffynnon fendithiol hefyd; roedd yn gallu gwella cleifion, yn ôl y sôn, ac arferid clymu clytiau i goeden uwchben y ffynnon. Cyfeiria'r hynafiaethydd Thomas Pennant ati yn ei lyfr Tours in Wales.[1]