Eglwys Sant Andreas, Mwynglawdd
eglwys Gradd II ym Mwynglawdd, Coedpoeth, Wrecsam
Mae Eglwys Sant Andreas yn eglwys Gradd II ym Mwynglawdd, Coedpoeth, Wrecsam, a adeiladwyd ym 1892[1] ar gyfer pobl Esclusham Uwch sef yr hen enw ar 'New Brighton'. Adeiladyd yr eglwys gyda haearn rhychiog ar ffrâm bren. Mae'r eglwys i'w chanfod tua 100 metr i'r de o Fferm y Wern ar y B5426 rhwng Minera ac Aber-oer.
Math | tabernacl tun |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Coedpoeth, Y Mwynglawdd |
Sir | Y Mwynglawdd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 221.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.044571°N 3.076088°W, 53.0446°N 3.0761°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Cysegrwyd i | Andreas |
Manylion | |
Cofrestrwyd yr adeilad yn Radd II gan Cadw yn Ebrill 1998.[2] Fe'i cofrestrwyd gan fod y math yma o bensaerniaeth (adeiladau haearn rhychiog) yn gymharol brin heddiw, er i lawer iawn ohonynt gael eu codi ar ddiwedd y 19g.