Coedpoeth

pentref ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Coedpoeth[1] neu Coed-poeth.[2] Mae'r pentref yng nghanol olion diwydiant cloddio mwynau megis plwm, haearn a glo llefydd fel Brymbo, Bersham a'r Mwynglawdd (Minera).

Coedpoeth
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,702, 4,436 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd536.25 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0547°N 3.0742°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000894 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ285515 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruKen Skates (Llafur)
AS/au y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]

Capel Rehoboth, Coedpoeth, sydd bellach wedi'i ddymchwel

Pedair Cymuned

golygu

Mae pedair rhan i'r Pentref:-

  • Y Nant yw'r hynaf o'r ardaloedd, sydd i'r gogledd o Afon Clywedog. Roedd llawer iawn o byllau-glo bach yn y rhan yma o'r pentref a chodwyd llawer o dai ar gyfer mwyngloddwyr calch, plwm a glo.
  • Mae'r Adwy yn ardal sy'n agos iawn i Glawdd Offa ac mae'r gair 'adwy' o bosib yn cyfeirio at fwlch yn y clawdd hwnnw. Mae'r Adwy yn ardal serth iawn, wrth i chi ddringo i fyny at y pentref sydd tua 795 troeddfedd uwch y môr. Yn yr Adwy roedd Capel anghydffurfiol cyntaf yr ardal sef Capel Adwy'r Clawdd (Methodistiaidd Calfinaidd).
  • Saif y Talwrn yn ardal ogleddol Coedpoeth, sydd i'r de o Afon Gwenfro sy'n llifo i lawr drwy Glanrafon at Wrecsam ac i Ddyfrdwy. Roedd yn y Talwrn nifer o byllau glo yn cynnwys 'Pwll Y Talwrn' a ddaeth i ben tua 1914.[angen ffynhonnell]
  • Y Smelt yw'r enw ar yr ardal lle roedd coed efallai yn cael eu llosgi i drin y plwm a'r haearn.

Mwyngloddiwyd plwm o weithfeydd plwm Y Mwynglawdd, gerllaw.

Yr enw

golygu

Defnyddiwyd yr enw (Coid Poch) yn gyntaf yn 1391 a'r sillafiad cyfoes yn 1412.[5] Mae'n bosib fod yr enw "poeth" yn cyfeirio at yr arferiad o losgi pren i greu siarcol a arferid ei ddefnyddio yn y gweithfeydd haearn a phlwm gerllaw, ers dyddiau'r Rhufeiniaid neu o bosib yn cyfeirio at y clirio tir a ddigwyddodd yn yr Oesoedd Canol er mwyn cyrraedd y mwynau.

Ceir yma nifer o strydoedd gydag enwau diddorol iddynt, gan gynnwys: Stryd Pen-y-Gelli, Heol y Fynwent, Ffordd Talwrn, Allt Tabor, Llys Rehoboth, Ffordd Smelt, Ffordd y Cynulliad, Lôn y Gegin, Pen y Palmant a Hen Ffordd y Mwynglawdd. Ceir hefyd Heol Caradog, Heol Offa sydd yn agos iawn at Glawdd Offa.

Enwogion

golygu
 
Blwch post aur yn nodi bod Tom James wedi ennill medal aur yn Llundain 2012

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Coedpoeth (pob oed) (4,702)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Coedpoeth) (825)
  
18.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Coedpoeth) (3612)
  
76.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Coedpoeth) (692)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Dictionary of Place-names of Wales, tuda 92-93; Gwasg Gomer; 2007.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol

golygu