Tabernacl tun
Math o adeilad eglwysig parod wedi'i wneud o haearn gwrymiog yw tabernacl tun. Fe'u datblygwyd ym Mhrydain yng nghanol y 19g. Ar y dechrau, defnyddiwyd haearn gwrymiog ar gyfer toeau adeiladau yn Llundain ym 1829 gan y peiriannydd sifil Henry Robinson Palmer a ddyfeisiodd y deunydd. Gwerthwyd y patent i Richard Walker a hysbysebodd "adeiladau cludadwy i'w hallforio" ym 1832. Ar ôl 1850, cynhyrchwyd sawl math o adeiladau parod, gan gynnwys eglwysi, capeli a neuaddau cenhadol.
Yn sgil twf cyflym ardaloedd diwydiannol newydd yn ystod y 19g, roedd galw am addoldai y gellid eu codi'n gyflym, ac roedd yr adeiladau parod hyn yn aml yn ddatrysiad priodol. Fe'u hanfonwyd hefyd i drefedigaethau'r Ymerodraeth Brydeinig.
Roedd eglwysi tun yn hawdd eu codi, ond roeddent yn ddrud - ar gost gyfartalog rhwng £2 a £4 y sedd. Gostyngodd y prisiau i bron i £1 y sedd tua diwedd y 19g. Hysbysebodd catalog 1901 o David Rowell & Co. eglwys i eistedd 400 o bobl, ei danfon i'r orsaf reilffordd agosaf a'i chodi ar sylfeini a gyflenwyd gan y prynwr, ar gost o £360.
Tabernaclau tun yng Nghymru
golyguLlenyddiaeth
golygu- Ian Smith, Tin Tabernacles: Corrugated Iron Mission Halls, Churches & Chapels of Britain (Penfro: Camrose Organisation, 2004)
- Alasdair Ogilvie, Tin Tabernacles & Others (Daglingworth: Alasdair Ogilvie, 2009)
- Nick Thomson, Corrugated Iron Buildings (Oxford: Shire, 2011)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Church of the Good Shepherd" Archifwyd 2019-07-11 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Yr Eglwys yng Nghymru; adalwyd 26 Tachwedd 2019
- ↑ "St Teilo's Mission Church, Llanion, Pembroke Dock"; Gwefan Coflein; adalwyd 26 Tachwedd 2019
- ↑ "Church of St Andrew: A Grade II Listed Building in Minera, Wrexham"; Gwefan British Listed Buildings; adalwyd 26 Tachwedd 2019
- ↑ "Apostolic Church, Station Road, Pembroke"; Gwefan Coflein; adalwyd 26 Tachwedd 2019
- ↑ "St David's Church, South Parade, Pensarn"; Gwefan Coflein; adalwyd 26 Tachwedd 2019