Eglwys Sant Garmon, Adamsdown

eglwys yn Adamsdown, Caerdydd

Eglwys Anglicanaidd yn Adamsdown, Caerdydd, yw Eglwys Sant Garmon (Saesneg: Saint German's Church). Fe'i hadeiladwyd i gynlluniau'r penseiri George Frederick Bodley a Thomas Garner ym 1881–1884, a caiff ei hystyried yn un o'u campweithiau.[1] Yn ôl un hanesydd pensaernïol yr eglwys hon a "gyflwynodd Gothig Fictoraidd hwyr i dde Cymru".[2] Mae'n adeilad ar raddfa eang ac oddi mewn mae'r bwâu ar hyd corff yr eglwys ar naill ochr yn ymestyn bron i'r nenfwd, gan roi effaith agored tebyg i Hallenkirchen gogledd Ewrop.[1] Mae addoliad yr eglwys yn y traddodiad Eingl-Gatholig, a oedd ar ei anterth yn yr 1880au.[3]

Eglwys Sant Garmon
Matheglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1881 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAdamsdown Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Adamsdown Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.48444°N 3.15944°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iGarmon Edit this on Wikidata
Manylion

Penodwyd yr eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I ym 1952 fel "un o adeiladau crefyddol harddaf y 19eg ganrif yng Nghymru" ac "eglwys aruthrol o goeth a chain gan bensaer [sic] pwysig a dylanwadol".[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Jenkins, Simon (2008). Wales: Churches, Houses, Castles. Llundain: Penguin. t. 155.
  2. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 300.
  3. Rose, Jean (2013). Cardiff Churches Through Time. Stroud: Amberley Publishing. t. 22.
  4. (Saesneg) Church of St German of Auxerre, Adamsdown. British Listed Buildings. Adalwyd ar 5 Ebrill 2014.