Eglwys Sant Iestyn, Llaniestyn
eglwys rhestredig Gradd II* yn Llanddona
Eglwys ganoloesol yw Eglwys Sant Iestyn, Llaniestyn, Ynys Môn, sy'n dyddio i'r 7g a'r adeilad presennol yn tarddu i'r 12g, fel y mae'r fedyddfaen gywrain. Mae'r eglwys wedi'i chofresu'n adeilad yn Gradd II* gan Cadw yn bennaf oherwydd y murlun o Sant Iestyn.[1]
Eglwys Sant Iestyn, Llaniestyn | |
---|---|
Ffenestr yn nhalcen deheuol (ar y dde) | |
Lleoliad | Llaniestyn, Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cristnogaeth | Yr Eglwys yng Nghymru |
Hanes | |
Sefydlwyd | 7g o bosibl, rhannau o'r adeilad presennol o'r 12g |
Sefydlydd | Sant Iestyn |
Cysegrwyd i | Sant Iestyn |
Pensaerniaeth | |
Statws | Eglwys |
Statws gweithredol | Ceir gwasanaethau |
Dynodiad (etifeddiaeth) | Gradd II* |
Dynodiad | 30 Ionawr 1968 |
Math o bensaerniaeth | Canoloesol |
Manylion | |
Hyd allanol | 38 tr 3 modf (11.7 m) |
Lled allanol | 15tr 6 modf (4.7 m) |
Arall | Coff deheuol: 18 wrth 15 tr (5.5 wrth 4.6 m) |
Defnydd | Carreg |
Administration | |
Plwyf | Biwmares, Llanddona a Llaniestyn |
Deoniaeth | Tindaethwy |
Archddeoniaeth | Bangor |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
Rhanbarth eglwysig | Cymru |
Ehangwyd yr eglwys yn y 14g o fod yn un siamr syml i ddwy siambr, a chafwyd nifer o newidiadau iddi dros y blynyddoedd. Ar y cyfan mae'r adeilad ganoloesol wedi'i chadw. Ynddi, ceir cofeb o'r 14g i Sant Iestyn, a gerfiwyd yn yr un gweithdy a chofeb tebyg sydd i'w weld heddiw yn Eglwys Sant Pabo, hefyd ar Ynys Môn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ What is listing? (PDF). Cadw. 2005. t. 6. ISBN 1-85760-222-6. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-04-17. Cyrchwyd 2015-09-17.