Eglwys y Bedyddwyr Saesneg, Caerfyrddin
Eglwys (neu gapel) y Bedyddwyr ar Heol Awst yng Nghaerfyrddin yw Eglwys y Bedyddwyr Saesneg[1] (Saesneg: English Baptist Church). Mae'n adeilad rhestredig Gradd II* a ddisgrifir fel capel clasurol uchelgeisiol yn bensaernïol.[2]
Math | eglwys Brotestannaidd, capel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Caerfyrddin |
Sir | Caerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 16.3 metr |
Cyfesurynnau | 51.8568°N 4.30923°W |
Cod post | SA31 3AD |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth neoglasurol |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Disgrifiad
golyguAdeiladwyd yr eglwys ar safle tafarn y "Black Horse" ar ochr ogleddol y stryd yn 1869/70. Hwn oedd gwaith pwysig cyntaf y pensaer George Morgan o Gaerfyrddin.[2] Daeth Morgan yn ddeon yn y capel.[3]
Mae gan y capel ffasâd carreg Caerfaddon, sy'n cynnwys pedair colofn Gorinthaidd. Mae'r capel wedi cadw ei ddodrefnu gwreiddiol y tu mewn, gyda galeri pren ar hyd y wal flaen, ar golofnau haearn.[3]
Mae cwrt o flaen y capel sy'n cynnwys giât a rheiliau haearn addurniadol ar Heol Awst. Mae'r giât a rheiliau'n rhestredig Gradd II.[4]
Cegin gymunedol
golyguLansiwyd cegin gymunedol, Cegin Hedyn, yn yr eglwys yn 2022. Mae pobl yn talu'r hyn y gallant ei fforddio. Darparwyd 3,000 o brydau bwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Capeli ag Eglwysi. Cyngor Tref Caerfyrddin. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) English Baptist Church - A Grade II* Listed Building in Carmarthen, Carmarthenshire. British Listed Buildings. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Powel, Meilyr (10 Chwefror 2009). English Baptist Church, Lammas Street, Carmarthen. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
- ↑ (Saesneg) Gates, gateposts and railings to English Baptist Church - A Grade II Listed Building in Carmarthen, Carmarthenshire. British Listed Buildings. Adalwyd ar 1 Medi 2024.
- ↑ (Saesneg) Lewis, Ian (30 Hydref 2023). Carmarthen community kitchen and canteen Cegin Hedyn marks first year since launching. In Your Area. Adalwyd ar 1 Medi 2024.