Eglwys y Santes Fair, Dolbenmaen

eglwys yn Nolbenmaen, Gwynedd

Codwyd Eglwys y Santes Fair, Dolbenmaen, Gwynedd yn y 15g ac mae wedi ei chofrestru'n Gradd II* ers 1971 oherwydd ei nodweddion hynafol e.e. ei tho 5 bwa derw. Mae'n bur debyg mai fel capel i Eglwys Sant Beuno, Penmorfa y'i codwyd hi'n gyntaf, ac mae'r mwnt (sy'n 36m mewn diameter a 6m o uchder) ar draws y ffordd i'r eglwys yn ei chysylltu gyda Llywelyn Fawr.[1]

Eglwys y Santes Fair
Matheglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDolbenmaen Edit this on Wikidata
SirDolbenmaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr93.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9649°N 4.22487°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iy Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Manylion

Adnewyddwyd yr eglwys dros y blynyddoedd ac mae rhai o'i phrif rannau'n eitha modern o fewn y gragen hynafol e.e. mae'r ffenestri lliw o 1937 gan J A Brymer a'r pulpud a giat yr eglwys yn mynd nôl i'r 19g yn unig.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu