Eglwys Sant Beuno, Penmorfa
Saif Eglwys Sant Beuno ger pentrefan Penmorfa, tua dwy filltir i'r gogledd-orllewin o Borthmadog, Gwynedd, Cymru; ac mae bellach yn nwylo Friends of Friendless Churches ("Gyfeillion Eglwysi Di-gyfaill").[1] Fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn adeilad cofrestredig Gradd II*.[2]
Eglwys Sant Beuno, o'r gogledd | |
Math | eglwys |
---|---|
Enwyd ar ôl | Beuno |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penmorfa, Dolbenmaen |
Sir | Dolbenmaen |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 28.6 metr |
Cyfesurynnau | 52.9402°N 4.17211°W |
Cod OS | SH540403 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Cysegrwyd i | Beuno |
Manylion | |
Mae'r eglwys yn nodedig am nifer o resymau pensaernïol, ond hefyd am y beddau sydd yn ei mynwent, ac yn eu plith y mae cist William Maurice a fu farw yn 1622, sydd wedi'i chofrestru'n Gradd II.[3] Ceir porth arbennig ar ochr ddwyreiniol y fynwent, a godwyd yn 1698 a'i hatgyweirio yn y 19g, ac a wnaed o garreg, gyda tho llechen ac mae ynddo ddwy fainc bren y naill ochr a'r llall, sydd hefyd yn Radd II.[4]
Hanes
golyguMae'r safle'n hynafol iawn ac yn dyddio'n ôl i oes Sant Beuno, pan oedd yn cael ei defnyddio fel cell meudwy tua diwedd y 6g.[5] Mae corff yr eglwys yn dyddio'n ôl i'r 14g a'r gangell o'r 15g. Ychwanegwyd y festri bychan a'r porth deheuol yn y 18g. Yn ystod y 19g atgyweiriwyd yr eglwys deirgwaith: yn 1851–53, 1880 a 1889,[2] a'r pensaer a oedd yn gyfrifol am y gwaith yn 1880 a 1889 oedd John Douglas o Gaer.[6] Wedi digysegru'r eglwys yn 1999, rhoddwyd lês 999 mlynedd ar yr eglwys i Friends of Friendless Churches, sy'n gyfrifol am y gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd. Maent hefyd wedi comisiynu cabined i ddal y casgliad o Feiblau a gedwir yno.[5]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Penmorfa" Archifwyd 2016-11-12 yn y Peiriant Wayback; Gwefan Friends of Friendless Churches; adalwyd 30 Mehefin 2019
- ↑ 2.0 2.1 Church of St Beuno, Penmorfa, Historic Wales (Cadw), http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=4623, adalwyd 29 Gorffennaf 2010
- ↑ Chest Tomb in churchyard of the Church of St Beuno, Historic Wales (Cadw), http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=21532, adalwyd 29 Gorffennaf 2010
- ↑ Lychgate at the Church of St Beuno, Historic Wales (Cadw), http://jura.rcahms.gov.uk/cadw/cadw_eng.php?id=4285, adalwyd 29 Gorffennaf 2010
- ↑ 5.0 5.1 Saunders, Matthew (2010), Saving Churches, Llundain: Frances Lincoln, pp. 89–91, 122, ISBN 978-0-7112-3154-2
- ↑ Hubbard, Edward (1991), The Work of John Douglas, Llundain: The Victorian Society, p. 271, ISBN 0-901657-16-6
Oriel
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Cofnod yr eglwys yng nghronfa ddata Church Heritage Cymru
- (Saesneg) Cofnod yr eglwys yng nghronfa ddata Coflein
- (Saesneg) Cofnod yr eglwys ar wefan Friends of Friendless Churches Archifwyd 2016-11-12 yn y Peiriant Wayback