Eicon hoyw
Person hanesyddol neu enwog sy'n cael ei edmygu gan nifer yn y cymunedau lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsryweddol (LHDT) yw eicon hoyw neu eicon LHDT. Yn ddiweddar, mae'r term "Dykon" sy'n gyfuniad o "ddeic" (Saesneg: dyke) ac "icon" wedi cael ei dderbyn i ddisgrifio eiconau lesbiaid.[1]
Mae priodweddau eicon hoyw fel arfer yn cynnwys delwedd goegwych, cryfder mewn adfyd, neu rywioldeb amwys. Gall yr eiconau hyn fod yn heterorywiol, cyfunrywiol, deurywiol neu'n drawsrywiol; mae'n bosibl hefyd nad ydynt wedi dod allan neu nad ydynt yn agored ynglŷn â'u rhywioldeb. Er bod y mwyafrif o eiconau hoyw wedi dangos eu cefnogaeth i fudiadau cymdeithasol LHDT, mae rhai wedi gwrthwynebu, gan ymgyrchu yn erbyn yr hyn a ystyriant yn agenda cyfunrywiol.
Yn draddodiadol, dyrchefir eiconau hanesyddol i statws uchel am fod eu rhywioldeb yn parhau i fod yn bwnc llosg ymysg haneswyr. Mae nifer o eiconau hoyw modern, diddanwyr benywaidd gan amlaf, wedi denu dilyniant mawr o'r gymuned hoyw yn ystod eu gyrfaoedd. Syrthia mwyafrif yr eiconau hoyw i mewn i un o ddau gategori: y cymeriad trasig, sydd weithiau'n cyflawni hunanladdiad neu'r eicon diwylliant-poblogaidd blaenllaw.
Ymysg eiconau enwog y mae Sant Sebastian, Judy Garland, Bette Davis, Barbra Streisand, Shirley Bassey, Margaret Williams,[2] Cher, Janet Jackson, Gloria Gaynor, Madonna, a Lady Gaga.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Euan Ferguson, Daniela's still dying for it; 16 Chwefror, 2003; Adalwyd ar 2007-02-08
- ↑ Jobbins, Siôn T. The Phenomenon of Welshness, 'or How many Aircraft Carriers would an independent Wales have?' (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2011), t. 73.