Margaret Williams
Cantores soprano ac actores o Gymru ydy Margaret Williams. Yn wreiddiol daw o Frynsiencyn, Ynys Môn. Mae ei gwaith wedi amrywio o berfformio mewn sioeau cerdd i gyflwyno ei rhaglen deledu ei hun ar S4C. Caiff ei hystyried yn diva[1] ac yn eicon hoyw Cymreig. Oherwydd hir-hoedledd ei gyrfa, fe'i hystyrir hefyd yn "drysor cenedlaethol" [2] a chyfeiriodd Shan Cothi ati fel y "Joan Collins Cymreig".[3]
Margaret Williams | |
---|---|
Ganwyd | Brynsiencyn |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, canwr |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd ym Brynsiencyn ac aeth i'r ysgol gynradd leol ac yna Ysgol Uwchradd Biwmares. Cafodd wersi canu a piano drwy gydol ei arddegau, gan gystadlu mewn eisteddfodau er mwyn ennill arian. Cafodd ei derbyn yn 16 oed i Goleg Cerdd ym Manceinion ond nid oedd y teulu yn gallu fforddio ei danfon yno a gwrthodwyd grant iddi gan y cyngor nes ei bod yn 18 oed. Fe'i derbyniwyd i'r Coleg Normal, Bangor ar gwrs hyfforddi athrawon. Wedi gadael y coleg aeth i ddysgu i'r ysgol gynradd yn Biwmares.[4]
Gyrfa
golyguPan oedd yn 15 oed, perfformiodd fel unawdydd yn cynrychioli Sir Fôn yng nghystadleuaeth y BBC Ser y Siroedd.
Dechreuodd Williams ei gyrfa ym 1964 pan enillodd y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Wedi symud i Gaerdydd a dechrau canu yn broffesiynol ar deledu, un o'r rhaglenni cyntaf a ganodd arni oedd Os Gwelwch Yn Dda. Ymddangosodd hefyd ar y gyfres ddychan Stiwdio B a'r gyfres adloniant Be Nesa?, cyfres gyntaf Ryan Davies. Roedd ei bryd ar hyfforddi i ganu opera ond am ei bod wedi priodi yn ifanc ac yn magu blant, roedd yn haws iddi ddilyn gyrfa canu ysgafn.
Yn ystod ei gyrfa, gweithiodd gyda rhai o brif sêr y llwyfan yng Nghymru, yn cynnwys y diweddar Ryan Davies a Ronnie Hazlewood.
Margaret oedd enillydd cyntaf Cân i Gymru pan ddechreuodd y gystadleuaeth ym 1969.
Bu yn gyhoeddwr rhaglenni ar HTV Cymru yn yr 1970au ac ar S4C yn yr 1980au. Roedd ganddi ei chyfres ei hun, Margaret ar S4C rhwng 1982 a 1999.[5]
Mae Williams wedi dylanwadu ar ddiwylliant fodern hefyd. Yn y ddrama Llwyth gan Dafydd James, cyfeirir ati fel arwres camp i un o'r cymeriadau hoyw.
Bywyd personol
golyguMae'n briod a'r darlledwr Geraint Jones.
Gwaith teledu
golygu- Margaret - 1982-1999[6]
- Cwin Y Sgrin - Cyngerdd byw o Theatr Gogledd Cymru, Llandudno, 2004.
- Cân i Gymru 2009 - beirniad.
- Cwpwrdd Dillad
- Cofio
Sioeau Cerdd
golyguDisgyddiaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cyngerdd i ddathlu gyrfa cantores o fri Gwefan BBC Cymru. Adalwyd ar 20-09-2010
- ↑ Cân i Gymru 2009 Judges[dolen farw] Gwefan S4C. Adalwyd ar 19-09-2010
- ↑ Shan Cothi[dolen farw] Gwefan S4C. Adalwyd ar 19-09-2010
- ↑ She's 'always been singing' to use her own words, but in her new series on S4C, the celebrated Welsh songbird shares musical memories with other artists and provides a platform for eight talented young Welsh musicians to find their voice. , Western Mail, 6 Ebrill 2013. Cyrchwyd ar 26 Ebrill 2018.
- ↑ The Continuity Booth. thetvroom.co.uk. Adalwyd ar 26 Ebrill 2018.
- ↑ The TV Room. Adalwyd ar 19-09-2010