Eingion
Offeryn metelwaith yw eingion neu einion
Offeryn metelwaith yw eingion neu einion sydd ag arwyneb caled i daro gwrthrych arno. Defnyddir yn aml gan y gof, i ofannu metelau. Ceir cyfeiriad at yr einion yn chwedl Culhwch ac Olwen, pan sonia Anifeiliaid Hynaf, sef Mwyalchen Cilgwri iddi rwbio'i phig ar einion am gyhyd, nes ei fod bellach yn ddarn bychan o fetal.
Math | melodic percussion instrument, directly struck idiophone |
---|---|
Deunydd | dur, haearn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr eingion Lydewig
golyguMath o einion o Lydaw oedd yr einion Llydewig. Gwthid pig yr einion i'r ddaear galed hyd at y 4 cylch. Eistedda'r gof, neu arall, ar y llawr a’r eingion rhwng ei goesau; yna gosodir min y bladur ar y llafn “cunffurf” a‘i daro â morthwyl. Fel hyn mae'n eitha cyfforddus i roi min ar lafn y bladur yn raddol. Modd felly sydd yma i hogi pladur yn y caeau trwy daro yn hytrach na llifo.[2]