Agor y brif ddewislen

Ŵyr i'r brenin Iago II/VII o Loegr a'r Alban oedd Charles Edward Stuart (31 Rhagfyr 1720 - 31 Ionawr 1788) (Gaeleg: Teàrlach Eideard Stiùbhairt, yn adnabyddus wrth ei lysenw Saesneg, Bonnie Prince Charlie).

Charles Edward Stuart
William Mosman - Prince Charles Edward Stuart, 1720 - 1788. Eldest son of Prince James Francis Edward Stuart - Google Art Project.jpg
Ganwyd 31 Rhagfyr 1720 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Ionawr 1788 Edit this on Wikidata (67 oed)
Achos: Strôc Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Galwedigaeth pretender, arweinydd militaraidd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Jacobitiaeth Edit this on Wikidata
Tad James Francis Edward Stuart Edit this on Wikidata
Mam Maria Clementina Sobieska Edit this on Wikidata
Priod Princess Louise of Stolberg-Gedern, Clementina Walkinshaw Edit this on Wikidata
Plant Charlotte Stuart, Duchess of Albany Edit this on Wikidata
Llinach House of Stuart Edit this on Wikidata
Llofnod
BPCharlessignature.jpg
Portread o Charles Edward Stuart gan William Mosman, Oriel Genedlaethol yr Alban

BywgraffiadGolygu

Roedd Charles yn fab i James Francis Edward Stuart, yntau yn fab i Iago II/VII, oedd wedi ei ddiorseddu yn 1688. Ganed Charles yn Rhufain, a theuliodd ei ieuenctid yno ac yn Bologna.

Cefnogid hawl y Stiwartaid i'r orsedd gan fudiad y Jacobitiaid, oedd yn cymryd ei enw o'r Lladin Jacobus ("Iago"). Roedd cefnogaeth sylweddol iddynt yn Ucheldiroedd yr Alban, a rhywfaint yng ngweddill yr Alban a gogledd Lloegr ac ychydig yng Nghymru hefyd.

Ar 23 Gorffennaf, 1745, glaniodd Charles a saith cydymaith yn Eriskay yn Ucheldiroedd yr Alban, i gefnogi hawl ei dad i'r orsedd. Cododd faner ei dad yn Glenfinnan, a llwyddodd i godi digon o ddilynwyr i ymdeithio tua dinas Caeredin. Ar 21 Medi 1745, gorchfygodd fyddin y llywodraeth ym Mrwydr Prestonpans, ac erbyn Tachwedd roedd ganddo fyddin o 6,000. Ymdeithiodd tua'r de, gan anelu am Lundain, a chyrhaeddodd cyn belled a Derby. Yma, oherwydd diffyg cefnogaeth gan Jacobitiaid Lloegr, penderfynwyd troi'n ôl am yr Alban. Gorchfygwyd ei fyddin gan fyddin y llywodraeth dan William Augustus, Dug Cumberland ar 16 Ebrill 1746 ym Mrwydr Culloden. Bu Charles ar ffô yn Ucheldiroedd yr Alban am fisoedd cyn medru dychwelyd i Ffrainc ym mis Medi. Bu fyw yn Ffrainc a'r Eidal hyd ei farwolaeth.

Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth sôn beth a wnâi dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".

CyfeiriadauGolygu