Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1865
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1865 yn Aberystwyth ar 12-15 Medi 1865, o ddydd Mawrth i ddydd Gwener.[1]
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1865 ![]() |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru ![]() |
Lleoliad | Aberystwyth ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Hanes Paul". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a thraddodwyd y feirniadaeth gan Caledfryn ar ran ei gyd-feirniad Dewi Wyn o Essyllt. Awdl 'Cresence' oedd y gorau ond roedd yn cynnwys "nifer lluosog o feiau cynghaneddol, ac amryw linellau yn bradychu chwaeth". Cyhoeddwyd felly nad oedd neb yn deilwng o'r gadair.[2]
Roedd y babell neu bafiliwn yn ddigon i ddal bump i chwech mil o bobl a wedi ei addurno gyda garlantau o flodau. Cynhaliwyd cyngherddau yn y babell bob nos.
Yn yr Eisteddfod hwn enillodd Cranogwen wobr am gân ar y testun, "Y Fodrwy Briodasol", gan guro Islwyn a Ceiriog yn y gystadleuaeth honno
Yn adroddiad 'Taliesin' o'r Eisteddfod yn Seren Cymru roedd sôn cyson am yr areithiau Saesneg a gwnaed sylwadau gan Glasynys hefyd yn dweud y dylai'r digwyddiad fod yn Eisteddfod Gymreig a defnyddio mwy o Gymraeg.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ "YR EISTEDDFOD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1865-09-22. Cyrchwyd 2016-08-16.
- ↑ "DYDD MERCHERI - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1865-09-29. Cyrchwyd 2016-08-16.