Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012

Eisteddfod a gynhaliwyd yng Nglynllifon ger Caernarfon rhwng y 4 Mehefin a 9 Mehefin 2012 ydy Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012. Daeth miloedd o blant ac oedolion ifanc rhwng 4 a 25 oed i gystadlu yn ystod yr wythnos gyda thros 100,000 o bobl yn ymweld a'r maes. Mae Glynllifon yn un o golegau Coleg Meirion Dwyfor.

Arwydd ar gyfer safle'r Eisteddfod yn Llandwrog

Lansiwyd app ffôn yn yr Eisteddfod o'r enw "ap Urdd" - Ap i ymwelwyr yr Eisteddfod sy’n cynnwys gwybodaeth, map, amserlen, bwydlenni a llawer mwy.[1]

Y flwyddyn nesaf cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Benfro 2013.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ap Urdd", Gwefan yr Urdd (Urdd Gobaith Cymru), http://www.urdd.org/eisteddfod/ap-urdd, adalwyd 03 Mehefin 2012