Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf, ac Elai 2017

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf, ac Elai 2017

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf ac Elai 2017 rhwng 29 Mai a 3 Mehefin 2017 ym Mhencoed.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf, ac Elai 2017
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2017 Edit this on Wikidata
LleoliadPen-coed Edit this on Wikidata

Cynheliwyd gorymdaith Gŵyl Gyhoeddi yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn 8 Hydref 2016 yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr gydag adloniant i ddilyn ar gaeau Pontnewydd.[1] Cafwyd perfformiadau gan Syrcas Circus, cyflwynwyr rhaglen blant Stwnsh ar S4C, cymeriadau rhaglen Cyw, stondinau nwyddau, Band Mawr Pen-y-bont, y gantores Danielle Lewis, Cpt Smith a pherfformiadau gan ysgolion, adrannau a grwpiau lleol.[2]

Cynhaliwyd Cyngerdd Agoriadol ym mhefiliwn y Maes ar 28 Mai gyda'r gyflwynwraig Sian Lloyd yn arwain a cherddoriaeth gan Sophie Evans, Only Boys Aloud (fersiwn iau o Only Men Aloud!, Dawnswyr Bro Taf, Steffan Rhys Hughes, Rhydian Jenkins, Côr Bro Taf ac eraill.[3]

Bu i bron 90,000 ymweld â'r Maes yn ystod yr wythnos a dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos.[4]

Enillwyr golygu

  • Y Goron - Elen Gwenllian Hughes, Aelwyd Chwilog[5][4]
  • Y Gadair - Gwynfor Dafydd [6][4]
  • Y Fedal Ddrama - Mared Llywelyn[4]
  • Y Fedal Lenyddiaeth -
  • Tlws y Cyfansoddwr - Ryan Howells[4]
  • Enillydd y Fedal Gelf - Tomos Sparnon[7][8]
  • Medal y Dysgwr - Rebecca Jones o Gwmdâr, Cwm Cynon oedd yn fyfyrwraig Cymraeg ail-iaith ym Mhrifysgol Abertawe[9]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd". Gwefan Menter Iaith Bro Ogwr. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2023.
  2. "Miloedd yng Ngŵyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2017". BBC Cymru Fyw. 6 Hydref 2016.
  3. "Urdd Eisteddfod 2017 Pencoed". Bridgend Tourism. 23 Mai 2017.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 "89,943 yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd 2017". BBC Cymru Fyw. 3 Mehefin 2017.
  5. "Gwaith Buddugol Y Goron Eisteddfod yr Urdd 2017". Youtube yr Urdd. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2023.
  6. "Gwynfor Dafydd yn cipio'r gadair am yr eildro!! #urdd2017". Twitter @EistUrdd2017. 1 Mehefin 2017.
  7. "Llongyfarchiadau i Tomos Sparnon ar ennill yr Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg rhwng 19-25 oed #urdd2017". Twitter @EisteddfodUrdd. 27 Mai 2023.
  8. "Exhibitions Arddangosfeydd". Gwefan Tomos Sparnon. Cyrchwyd 23 Tachwedd 2023.
  9. "Cyn-fyfyriwr Adran y Gymraeg yn cipio Medal y Dysgwyr". Prifysgol Abertawe. 30 Mai 2017. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2023.

Dolenni allanol golygu