Pen-coed
Mae Pen-coed (hefyd: Pencoed)[1][2] yn dref ac yn gymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg. Poblogaeth Pencoed yw tua 11 mil (11,832 yn ôl ffigyrau diweddar). Mae Pencoed wedi ei hefeillio â threfi Waldsassen yn Bayern (Bavaria) yn Yr Almaen, a Plouzane yn Llydaw yn Ffrainc. Saiff Pencoed ar lannau Afon Ewenni Fawr o dan lethrau deheuol Mynydd y Gaer. Mae Nant Hendre hefyd yn llifo trwy'r dref i gyrraedd Afon Ewenni Fawr. Datblygodd y dref yn y 19g ar lethrau Cefn Hirgoed.
Math |
tref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Gefeilldref/i |
Plouzane, Waldsassen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.5228°N 3.5047°W ![]() |
Cod SYG |
W04000644 ![]() |
Cod OS |
SS957815 ![]() |
Cod post |
CF35 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Huw Irranca-Davies (Llafur) |
AS/au | Chris Elmore (Llafur) |
![]() | |
Bu Sony Electronics yn un o brif ddiwydiannau'r ardal hyd at 2005.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Huw Irranca-Davies (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Chris Elmore (Llafur).[3][4]
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
EnwogionGolygu
- Stan Stennett (m. 2013), comediwr
Eisteddfod GenedlaetholGolygu
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhencoed ym 1998. Am wybodaeth bellach gweler:
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Dictionary of the Place-names of Wales; golygydion; Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer 2007. Defnyddiwyd "Pencoyt" yn 1149-1183 a "Pencoyd" erbyn 1415. Dywedir: Convention requires Pen-coed but usage favours Pencoed.-
- ↑ Mae Gwyddoniadur Cymru'n ffafrio'r sillafiad "Pen-coed"; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008; tud 700
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bragle · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefn Cribwr · Corneli · Cwm Ogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Maesteg · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynydd Cynffig · Nant-y-moel · Notais · Pencoed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pen-y-fai · Y Pîl · Pontycymer · Porthcawl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre