Ekaterina Karavelova

Ffeminist o Fwlgaria oedd Ekaterina Karavelova (Bwlgareg: Екатерина Каравелова; 21 Hydref 1860 - 1 Ebrill 1947) fu hefyd yn athro, cyfieithydd, swffragét ac ymgyrchydd dros hawliau menywod. Enwyd rhan o Antarctica ar ei hôl: Karavelova Point.[1]

Ekaterina Karavelova
GanwydЕкатерина Великова Пенева–Каравелова Edit this on Wikidata
21 Hydref 1860 Edit this on Wikidata
Ruse Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1947 Edit this on Wikidata
Sofia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Bwlgaria Bwlgaria
Galwedigaethathro, ysgrifennwr, cyfieithydd, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, nyrs, ffeminist Edit this on Wikidata
PriodPetko Karavelov Edit this on Wikidata
PlantRadka Karavelova, Viola Karavelova, Lora Karavelova Edit this on Wikidata
PerthnasauJoseph Herbst, Peyo Yavorov Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganed yn Rouse (5ed tref fywaf Bwlgaria heddiw) a bu farw yn Sofia, prifddinas y wlad. Bu'n briod i Petko Karavelov.

Hi oedd sylfaenydd y sefydliad merched diwylliannol 'Maika' a bu'n gadeirydd rhwng 1899 a 1929, yn Is-gadeirydd Undeb Menywod Bwlgaria rhwng 1915 a 1925, yn llywydd cangen Bwlgaria o Gynghrair Ryngwladol y Merched dros Heddwch a Rhyddid ym 1925, cyd-sylfaenydd Cymdeithas Bwlgareg-Rwmania yn 1932, ac yn gcyd-sylfaenydd Cymdeithas Awduron Bwlgaria, a'i llywydd, yn 1935. [2]

Fel athrawes, cynhaliodd drafodaethau cynnar ar hawliau merched ac addysg menywod a statws athrawon benywaidd. Yn 1901, roedd yn gyd-sylfaenydd Undeb Menywod Bwlgaria ochr yn ochr â Vela Blagoeva, Kina Konova, Anna Karima a Julia Malinova. Roedd y sefydliad yn sefydliad ymbarél o'r 27 sefydliad menywod lleol a sefydlwyd ym Mwlgaria ers 1878. Fe'i sefydlwyd fel ymateb i gyfyngiadau addysg menywod a mynediad i astudiaethau prifysgol yn y 1890au, gyda'r nod o hyrwyddo datblygiad deallusol menywod a chyfranogi, a threfnu cyngherddau cenedlaethol.

Gwasanaethodd Ekaterina Karavelova fel cynrychiolydd Bwlgareg ar sawl cynhadledd ryngwladol. Yn 1935 gwrthwynebodd rhoi'r gosb eithaf i garcharorion gwleidyddol ym Mwlgaria, ac ym 1938 gwasanaethodd mewn comisiwn a oedd yn gwrthwynebu cau ysgolion Bwlgaria yn Romania.

Cyfeiriadau golygu

  1. Karavelova Point. SCAR Composite Antarctic Gazetteer
  2. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 18 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 25 Medi 2023.