Bwlgareg
Bwlgareg (български език bǎlgarski ezik) | |
---|---|
Siaredir yn: | Bwlgaria |
Parth: | De-ddwyrain Ewrop |
Cyfanswm o siaradwyr: | 9.1 miliwn (Ethnologue) |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | {{{safle}}} |
Achrestr ieithyddol: | Ieithoedd Indo-Ewropeaidd Balto-Slafeg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Bwlgaria |
Rheolir gan: | Institiwt yr Iaith Fwlgareg, Academi Gwyddorau Bwlgaria (Институт за български език) |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | bg |
ISO 639-2 | bul |
ISO 639-3 | bul |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Slafeg Ddeheuol yw Bwlgareg. Heddiw iaith swyddogol Bwlgaria yw hi, ac, yn ôl cyfrifiad Bwlgaria 2001, mae 6,697,158 o bobl yn siarad Bwlgareg fel mamiaith ym Mwlgaria (84.5% o'r boblogaeth). Ceir lleiafrifoedd Bwlgareg eu hiaith yn Wcrain, Gwlad Groeg, Twrci ac yn gyffredinol dros wledydd y Balcanau. Mae cyfanswm o 8–9 miliwn o bobl yn ei siarad. Ysgrifennir Bwlgareg â'r wyddor Gyrilig. Mae cyfnodion yr iaith yn dyddio i'r 9g, pan gynhyrchiwyd nifer o lawysgrifau ym Mwlgaria yn Hen Slafoneg Eglwysig, iaith lenyddol gyntaf y Slafiaid, wedi'i seilio ar dafodieithoedd Slafeg Macedonia a Bwlgaria. Parhaodd traddodiad llenyddol llewyrchus yn yr iaith yn y cyfnod Bwlgareg Canol (12g – 15g), ond dirywiodd ei statws yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid. Crëwyd iaith safonol newydd yn y 14g fel rhan o ddiwygiad cenedlaethol Bwlgaria. Mae'r iaith gyfoes yn wahanol iawn i Hen Slafoneg Eglwysig. Mae wedi colli'r system gymhleth o gyflyrau enwol oedd gan yr iaith honno, ac wedi profi nifer o gyfnewidiadau fel rhan o ardal ieithyddol y Balcanau sydd wedi dod â hi'n nes yn ei strwythur at ieithoedd o grwpiau eraill megis Groeg, Albaneg, Rwmaneg a Thyrceg.
Orgraff
golyguDefnyddir amrywiaeth ar yr wyddor Gyrilig i ysgrifennu Bwlgareg. Yr wyddor gyfoes (a gwerthoedd IPA y llythrennau) yw:
А а /a/ |
Б б /b/ |
В в /v/ |
Г г /g/ |
Д д /d/ |
Е е /ɛ/ |
Ж ж /ʒ/ |
З з /z/ |
И и /i/ |
Й й /j/ |
К к /k/ |
Л л /l/ |
М м /m/ |
Н н /n/ |
О о /ɔ/ |
П п /p/ |
Р р /r/ |
С с /s/ |
Т т /t/ |
У у /u/ |
Ф ф /f/ |
Х х /x/ |
Ц ц /ʦ/ |
Ч ч /tʃ/ |
Ш ш /ʃ/ |
Щ щ /ʃt/ |
Ъ ъ /ɤ̞/, /ə/ |
Ь ь /◌ʲ/ |
Ю ю /ju/ |
Я я /ja/ |
Cyn diwygiad orgraffol 1945, defnyddid dwy lythyren ychwanegol, yat (Ѣ ѣ) /æː/ a yus fawr (Ѫ ѫ) /ɔ̃/. Defnyddid yus fawr i gyfleu'r un sain, schwa /ə/, â Ъ ъ. Defnyddir yat i gyfleu /a/ neu /e/ yn ôl ei safle yn y gair.
Hen orgraff | Orgraff newydd | Ynganiad | Ystyr |
бѣлъ | бял | /bjal/ | 'gwyn (gwrywaidd)' |
бѣли | бели | /beli/ | 'gwynion (lluosog)' |
зѫбъ | зъб | /zɤ̞b/ | 'dant' |