El Aaiún
Dinas yn nhiriogaeth Gorllewin Sahara a chyn-wladfa Sbaenaidd yw El-Aaiún (troslythrennir hefyd fel "Laâyoune" neu "El Ayun")(Arabeg: العيون, al-`ayūn, sef "Y Ddinas"). Mae'n gorwedd ger arfordir gogledd-orllewin Affrica ar lan Cefnfor Iwerydd, gyferbyn â'r Ynysoedd Dedwydd. Mae ym meddiant Moroco ers 1976, ac yn brifddinas rhanbarth Laâyoune-Boujdour-Sakia El Hamra yn y wlad honno. Hawlir meddiant ar y ddinas gan Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi hefyd, fel ei phrifddinas de jure.
Math | dinas fawr, endid tiriogaethol gweinyddol, urban commune of Morocco |
---|---|
Poblogaeth | 217,732 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Moulay Hamdi Ould Errachid |
Cylchfa amser | UTC±00:00, UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Laâyoune |
Gwlad | Moroco |
Arwynebedd | 8.1081 mi² |
Uwch y môr | 72 metr |
Cyfesurynnau | 27.15°N 13.2°W |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
Pennaeth y Llywodraeth | Moulay Hamdi Ould Errachid |
Mae ganddi boblogaeth o 188,084, yn gymysgedd o Forocwyr o'r gogledd a Sahrawiaid o dde Moroco a brodorion Gorllewin Sahara. Mae'r boblogaeth wedi cynyddu yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, diolch i fenwfudo o Foroco. Cafwyd peth gwrthdaro ar y strydoedd yn 2005 fel rhan o intifada Gorllewin Sahara.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwybodaeth am y ddinas ar Lexicorient Archifwyd 2012-05-07 yn y Peiriant Wayback