Mae gan tair gwlad y Maghreb lawer mewn cyffredin o ran iaith (mae cryn gwahaniaeth rhwng Arabeg lafar y Maghreb ac iaith lafar yr Aifft a'r Dwyrain Canol), diwylliant a hanes. Mae'r Maghrebiaid yn Fwslemiaid Sunni ac ychydig iawn o Fwslemiaid Shia a geir yn eu plith. Ffactor arall sy'n eu nodweddu yw'r etifeddiaeth Ferber, yn arbennig ym Moroco ac Algeria. Yn hanesyddol mae'r ardal yn sefyll ar groesffordd ddiwylliannol rhwng y Sahara a'r gwledydd traws-Saharaidd ar y naill law - a gysylltir â'r Maghreb trwy'r hen lwybrau masnach dros yr anialwch hwnnw - a'r Môr Canoldir.

  • Y Maghreb Mawr (Undeb Maghreb Arabaidd)
    Y Maghreb Mawr yw tair gwlad y Maghreb ei hun gyda Libia a Mawritania yn ogystal. Yn 1989 fe wnaeth y gwledydd hyn greu undeb economaidd a elwir yr UMA (Undeb y Maghreb Arabaidd).
  • Mae'r gair Maghreb yn dod o'r Arabeg مغرب maghrib ('machlud haul'). Dyma enw'r Arabiaid ar orllewin pell y byd Arabaidd, gan fod yr haul yn machlud yn y cyfeiriad hwnnw. Roedd y Maghreb gynt yn cynnwys Andalucía yn Sbaen hefyd. Roedd yr Arabiaid yn ystyried fod Cordoba ac Afon Guadalquivir yn dynodi ffin orllewinol gwledydd Islam. Mewn cyferbyniaeth â'r Maghreb ceir y Mashriq ('Y Dwyrain'), sef gwledydd Arabaidd y Dwyrain Canol.
  • Enw Moroco yn Arabeg yw Al-Maghrib. Yr enw llawn yw Al-Mamlaca al-Maghribïa "Teyrnas Machlud yr Haul".

Gweler hefyd

golygu