Elaine Morgan
Awdures a dramodydd o Gymru oedd Elaine Morgan, OBE (7 Tachwedd 1920 – 12 Gorffennaf 2013).[1]
Elaine Morgan | |
---|---|
Elaine Morgan yn 1998 | |
Ganwyd | 7 Tachwedd 1920 Pontypridd |
Bu farw | 12 Gorffennaf 2013 Aberpennar |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | sgriptiwr, colofnydd, llenor, ymgyrchydd dros hawliau merched |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, y Blaid Lafur |
Plant | Dylan Morgan |
Gwobr/au | OBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Ganwyd a magwyd Elaine Floyd yn Nhrehopcyn, ger Pontypridd. Bu'n byw am flynyddoedd lawer, hyd ei marwolaeth yn Aberpennar ger v. Graddiodd o Neuadd Lady Margaret, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Saesneg. Priododd Morien Morgan (m. 1997) a cawsant dri mab. Ei mab hynaf oedd y mathemategydd Dylan Morgan.
Ysgrifennodd nifer o ddramau teledu i'r BBC, gan gynnwys The Life and Times of David Lloyd George (1981), a chyfrannodd sgriptiau i sawl pennod o gyfresi drama. Roedd hefyd yn awdur sawl llyfr ar anthropoleg esblygol, yn arbennig damcaniaeth yr epa ddyfrol: The Descent of Woman, The Aquatic Ape, The Scars of Evolution, The Descent of the Child, The Aquatic Ape Hypothesis, a The Naked Darwinist (2008). Roedd hefyd yn gyd-awdur Falling Apart a Pinker's List. Yn 2016, fe'i henwyd yn un o'r "50 Cymry mawr erioed".[2]
Cysylltiadau
golygu- ↑ BBC News, Leading writer and feminist Elaine Morgan dies aged 92, 12 July 2013. Retrieved 12 Gorffennaf 2013
- ↑ "The 50 Greatest Welsh Men and Women of All Time". Wales Online.
Dolenni allanol
golygu- Elaine Morgan ar wefan Internet Movie Database